Mae dysgwyr a thiwtoriaid yng Nghaerffili a Rhondda Cynon Taf wedi bod yn dathlu’r bore yma wrth i Goleg y Cymoedd ddarparu’r carped coch i nodi blwyddyn arall wych o ganlyniadau Lefel A a llwyddiannau galwedigaethol, y diwrnod lle gwelwyd tri yn cael eu derbyn ar gyrsiau ym Mhrifysgol Rhydychen a channoedd o rai eraill yn cadarnhau eu dewis cyntaf o brifysgol.
Mae’n ymddangos bod y coleg yn Ne Cymru, sy’n gwasanaethu dros 9,000 o ddysgwyr a’r darparwr mwyaf o gyrsiau Lefel A yn siroedd Caerffili a Rhondda Cynon Taf, wedi datblygu’r ddawn o baratoi’r rhai disgleiriaf ar gyfer prifysgolion gorau’r DU, gyda llif cyson o gyn-ddysgwyr yn mynd i Rydychen a Chaergrawnt, gan gynnwys chwech dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Wrth i nifer y dysgwyr sy’n gwneud cais i brifysgol ostwng ledled Cymru, mae Coleg y Cymoedd wedi gweld cynnydd o 13% yn nifer y dysgwyr sy’n gwneud cais i brifysgol o gymharu â’r llynedd.
Adroddir fod yna raddau uchel ar draws cyrsiau academaidd a galwedigaethol y coleg, gyda’r ganolfan Lefel A yn Nantgarw yn gweld cyfradd lwyddo gyffredinol o 99% gan gynnwys 20 allan o 23 pwnc yn cyflawni 100% mewn pynciau fel y gwyddorau, Mathemateg, Llenyddiaeth Saesneg, Hanes. a Chymraeg, gyda 43% o ddysgwyr yn cyflawni A* A mewn Mathemateg Bellach.
Yn ogystal â’i berfformiad cryf o ran Lefel A, gydag 80% o ddysgwyr yn cyflawni graddau A*-C eleni, ac yn rhagori ar berfformiad canlyniadau coedd yn 63% cyn-Covid, mae’r coleg hefyd wedi gweld canlyniadau eithriadol gan ei ddysgwyr galwedigaethol, gyda mwy na mil o ddysgwyr yn cwblhau cymwysterau Lefel 3. Yn nodedig, mae Coleg y Cymoedd wedi gweld tri dysgwr yn cyflawni D*D*D* (Rhagoriaeth*) mewn Cyfrifiadura, yn dilyn buddsoddiad helaeth mewn cyfleusterau digidol yn y coleg yn unol â meysydd blaenoriaeth Llywodraeth Cymru.
Bydd Grace Bennett (18), Seth Olner (18) ac Amber-Leigh Mitchell (20) i gyd yn mynd i Brifysgol Rhydychen y mis Medi hwn ar ôl cwblhau eu harholiadau Lefel A. Bydd Grace yn astudio Biocemeg, tra bod Seth yn bwriadu astudio’r Gyfraith yn y ‘New College’ a bydd Amber-Leigh yn ymuno â’r cwrs Saesneg a’r Clasuron yng Ngholeg Trinity.
Ysbrydolwyd Grace Bennett, sy’n frwd dros wyddoniaeth, i ddilyn gyrfa ym maes geneteg gan frwydr ei mam â melanoma ac mae Grace wedi derbyn A*A*A yn ei Lefel A Bioleg, Mathemateg a Chemeg, gan sicrhau ei lle yn Rhydychen. Fe wnaeth Grace hefyd roi hwb i’w siawns o gael ei derbyn yn y brifysgol amlwg hon trwy fynychu UNIQ, ysgol haf Rhydychen, yn ystod haf 2023, a chael lletya yno am dri diwrnod er mwyn i ddarpar ymgeiswyr Rhydychen ddarganfod sut brofiad fyddai addysg amser llawn yn y brifysgol.
Er i’w mam gael y newydd ei bod yn glir yn 2022 a’i bod wedi adfer ei hiechyd, dim ond dwysáu wnaeth dyhead ei merch 18 oed i helpu i ganfod yr hyn sy’n achosi canser. Ei hawydd i helpu eraill i drechu’r salwch oedd y grym y tu ôl i’w chyflawniadau academaidd rhagorol. Meddai hi: “Bywyd mewn cotiau labordy: dyna’r freuddwyd. Bu profi’r brifysgol, y ddinas, a lefel yr addysg oedd ar gael i mi yn fodd i’m gwneud yn fwy awyddus i gael profiad o weithio ym maes ymchwil gwyddonol a bod ar reng flaen y frwydr i geisio gwella canser.
“Rwyf mor ddiolchgar am lefel y gefnogaeth a’r anogaeth a gefais gan fy nhiwtoriaid yng Ngholeg y Cymoedd yn ystod fy Lefel A. Er fy mod wedi mwynhau pob un o’m tri phwnc yn fawr, mae wedi bod yn straen, ac mae fy nhiwtoriaid wedi teithio’r ail filltir i fy helpu gyda gwersi adolygu ychwanegol lle bo angen a gwneud yn siŵr fy mod mor barod â phosibl ar gyfer fy mhennod newydd yn Rhydychen. Rwy’n teimlo mor freintiedig o fod wedi sicrhau lle mewn prifysgol mor nodedig ac rwy’n gobeithio bydd y coleg a fy mam yn ymfalchïo.”
Ar ôl blynyddoedd o frwydro yn erbyn gorbryder ac iselder, ynghyd ag awtistiaeth heb ei ddiagnosio, mae Amber, o Ysgol Gyfun Garth Olwg, Pontypridd, o’r diwedd un cam yn nes at ei breuddwydion o fod yn academydd, diolch i’r gefnogaeth a gafodd gan ei thiwtoriaid yng Ngholeg y Cymoedd. Meddai: “Gan fy mod yn dod o gefndir incwm isel, roedd cael lle yn y brifysgol – heb sôn am un fel Rhydychen – yn ymddangos allan o fy nghyrraedd. Mae cael fy nerbyn ar raglen Astrophoria Rhydychen, a fydd yn ariannu fy mlwyddyn gyntaf yn y brifysgol, wedi gweddnewid hynny, ac rwy’n falch fy mod wedi cael cynnig lle.
“Rwy’n ddiolchgar i fy nhiwtoriaid am fy helpu i gyrraedd fan hyn, gan fy nghefnogi drwy fy nhrafferthion ariannol a dygymod gydag unrhyw faterion a gododd yn y dosbarth gyda’m niwro-ddargyfeiredd a’m gorbryder, sy’n ei gwneud yn anodd i mi ateb cwestiynau, darllen yn uchel, a gweithio mewn grwpiau. Galluogodd y gefnogaeth hon i mi sicrhau lle yn Rhydychen. Rwy’n bwriadu defnyddio’r fraint hon i ymgyrchu i wella cymorth iechyd meddwl mewn lleoliadau academaidd yn genedlaethol, tra hefyd yn manteisio’n llawn ar lyfrgell anhygoel Rhydychen!”
Yn chwifio’r faner dros ddysgwyr galwedigaethol Coleg y Cymoedd mae Tanydd Williams, sydd wedi sicrhau lle ym Mhrifysgol Bryste i astudio milfeddygaeth ar ôl dilyn llwybr anghonfensiynol tuag at ei gyrfa ddelfrydol. A hithau bob amser wedi tyfu i fyny gydag anifeiliaid anwes wedi eu hachub, gan gynnwys ei hannwyl Zeus, y daeargi Swydd Stafford, tarfwyd ar daith Tanydd i fyd milfeddygaeth gan y pandemig yn 2020, lle’r oedd bod gartref yn gyson heb gefnogaeth ei thiwtoriaid wedi arwain at beidio â chyrraedd y graddau Lefel A oedd eu hangen arni i fynd i’r brifysgol.
Wnaeth Tanydd ddim erioed anghofio ei dyhead, ac ar ôl blwyddyn mas o fyd addysg yn gweithio ym maes manwerthu, dychwelodd i Goleg y Cymoedd i astudio diploma mynediad i fiowyddoniaeth – sydd gyfwerth â thair Lefel A ac wedi sicrhau lle iddi yn un o Brifysgolion Grŵp Russell. Meddai: “Mae fy nhiwtoriaid wedi dweud wrthyf fod angen i mi gael mwy o ffydd ynof fy hun ac maen nhw wedi fy helpu i baratoi ar gyfer fy nghwrs. Maen nhw wedi bod yn hynod gefnogol ac wedi rhoi help i mi yn bersonol a thrwy ‘Teams’, gan ddweud wrthyf y gallaf anfon neges atyn nhw unrhyw bryd, sydd wedi bod yn anhygoel.
“Rydw i’n awyddus i ddangos i ddysgwyr eraill sydd efallai heb wneud cystal â’r disgwyliad yn eu Lefel A, neu sy’n ystyried am ddewisiadau eraill yn lle Lefel A, bod opsiynau eraill ar gael i gyrraedd prifysgol. Nid un llwybr sydd yna. Efallai nad ydy’r llwybr traddodiadol at ddant pawb ac mae hynny’n iawn.”
Mae Lydia Williamson-Price, y ddeifwraig a’r ofalwraig ifanc, yn mynd i Brifysgol De Cymru ym mis Medi i astudio bydwreigiaeth, a hynny ar ôl goresgyn sawl her bersonol gan gynnwys cael ei chipio i’r ysbyty, colli ei thad-cu, cael diagnosis meddygol, a chydbwyso ei hastudiaethau gyda’i chyfrifoldebau gofalu a chwaraeon, diolch i’r Cynllun Ysgoloriaethau Athletwyr Dawnus (TASS). Coleg y Cymoedd ydy’r unig goleg yng Nghymru sydd ag achrediad Gyrfa Ddeuol TASS, a gynlluniwyd i helpu athletwyr 16 oed a throsodd i gydbwyso eu hamser a chyflawni eu nodau heb orfod cyfaddawdu.
“Roeddwn wrth fy modd â’r arddull dysgu a gynigwyd gan Ddiploma Estynedig Lefel 3 Coleg y Cymoedd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Roedd yn fy siwtio’n well ac mae’r gefnogaeth a gefais yma nid yn unig fel athletwr ond fel gofalwraig ifanc wedi bod yn anhygoel. Pryd bynnag roeddwn i angen amser rhydd o’r coleg roedden nhw’n deall ac yn gwneud popeth o fewn eu gallu i fy helpu, gan roi’r lle i mi wella tra’n dal i gysylltu i wneud yn siŵr fy mod yn iawn a darparu gwersi i mi y gallwn eu gwneud gartref. Rydw i mor ddiolchgar. Alla i ddim aros i gychwyn ar gam nesaf fy mywyd, diolch i’w cefnogaeth nhw.”
Dywedodd Jonathan Morgan, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Rwyf wrth fy modd gyda chanlyniadau’r Ganolfan Lefel A, sy’n dyst i waith caled ac ymrwymiad y dysgwyr, cyfarwyddyd arbenigol ymroddedig y tiwtoriaid pwnc a chwrs, yn ogystal â’r ddarpariaeth gynhwysfawr o ran cymorth llesiant personol yr ydym wedi’i roi ar waith ar draws y coleg. Hoffwn longyfarch ein holl ddysgwyr a dymuno’n dda iddyn nhw yn eu hymdrechion yn y dyfodol.”
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR




