Coleg y Cymoedd yn dod i’r brig ym Mhencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol

Enillodd Coleg y Cymoedd y teitl ‘Coleg Gorau’ am yr ail flwyddyn yn olynol mewn cystadleuaeth goginio genedlaethol ar ôl creu argraff ar y beirniaid gydag ansawdd a sgiliau ei ddysgwyr.

Yn ogystal ag ennill y teitl anhygoel hwn, enillodd Coleg y Cymoedd 31 o wobrau ychwanegol ym Mhencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru eleni – un o’r digwyddiadau sgiliau lletygarwch mwyaf mawreddog yng Nghymru – y record uchaf erioed i’r coleg.

Nod Pencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru, a drefnir gan bartneriaeth o gogyddion ac arlwywyr proffesiynol o dan yr enw Cymdeithas Goginio Cymru, yw codi proffil coginio Cymru, gan roi cyfle i ddarpar gogyddion a gweithwyr lletygarwch proffesiynol o bob rhan o’r wlad ddangos eu sgiliau i fwrdd o arbenigwyr yn y diwydiant. Cipiodd 13 o ddysgwyr Coleg y Cymoedd wobrau ar ôl cystadlu dwys, a gynhaliwyd dros dridiau yn yr ICC yng Nghasnewydd.

Bu dysgwyr yn cystadlu mewn amrywiaeth o gystadlaethau unigol fel cigyddiaeth, cymysgeddoleg a sgiliau cyllyll, yn ogystal â heriau coginio fel creu seigiau gyda chynnyrch Cymreig fel cig eidion a chig oen. Dyfarnwyd gwobrau aur, arian neu efydd i’r cystadleuwyr ar ôl cael eu hasesu ar feysydd fel hylendid, blas, a sgil technegol.

Ymhlith medalau eraill, enillodd Sophie Wilson, dysgwr Cyflwyniad i Goginio Proffesiynol Lefel 1  yng Ngholeg y Cymoedd, Aur a ‘Gorau yn y Dosbarth’ yn rhagbrawf Cymreig Her Cogydd Risotto Ifanc Riso Gallo, cystadleuaeth ar wahân ym Mhencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru. Yn sgil hynny mae hi wedi cael gwahoddiad i gynrychioli Cymru yn Rownd Derfynol y DU y gystadleuaeth risotto genedlaethol yn 2026.

Meddai: “Mae’n gymaint o anrhydedd cynrychioli Coleg y Cymoedd, fy nghyfoedion, a’m gwlad ar lwyfan cenedlaethol ar gyfer Rowndiau Terfynol Cenedlaethol Riso Gallo. Hefyd, rydw i mor falch o fod wedi ennill medalau Arian am Dorri Ffrwythau a Chymysgu Coctels, ynghyd â Gorau yn y Dosbarth am Dorri Ffrwythau, ym Mhencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru. Mae’r canlyniadau hyn yn golygu’r byd i mi ac rydw i mor hapus i fod wedi gwneud fy nheulu a’m darlithwyr yn falch.”

Enillodd Corey Evans, sy’n ddysgwr Patisserie a Melysion Lefel 3, Aur a’r Gorau yn y Dosbarth am ei bryd cig eidion yn y Gwobrau Coginio tri diwrnod o hyd. Dywedodd:

“Roeddwn i mor nerfus cyn y gystadleuaeth, felly rydw i wrth fy modd fy mod wedi ennill Aur a Gorau yn y Dosbarth am fy saig cig eidion ddydd Mercher. Mae’n gystadleuaeth mor ddwys felly rydw i mor falch o fy llwyddiant ac ni allaf ddiolch digon i’r coleg a fy narlithwyr am eu cefnogaeth ar hyd y ffordd.”

Dywedodd Kevin Hall, arweinydd cystadlu yng Ngholeg y Cymoedd: “Rydw i’n hynod falch o’r holl ddysgwyr a gamodd ymlaen yn ddewr i ymuno â thîm cystadlu Coleg y Cymoedd. Mae eu hymroddiad a’u hymrwymiad, yn ymarfer yn eu hamser eu hunain ac yn camu allan o’u man cysurus, wedi bod yn wirioneddol ryfeddol.

“Eleni, fe wnaethom ni gael y nifer uchaf erioed o geisiadau ar draws ein tri champws, ac mae ein dysgwyr wedi ennill 26 o fedalau a 5 gwobr, sy’n record newydd i ni. Ni fyddai’r llwyddiant hwn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth ddiwyro ein darlithwyr, technegwyr cegin, staff cymorth, a noddwyr ymroddedig. Mae’r dyfodol yn edrych yn eithriadol o ddisglair i’n hadran a’n dysgwyr.”

Darganfydda gyrsiau Arlwyo yng Ngholeg y Cymoedd a gwna gais nawr

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Porth Dysgwyr a Staff Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd