Mae Coleg y Cymoedd wedi llwyddo i gyflawni Achrediad Rhuban Gwyn, sy’n gam pwysig yn ymrwymiad y coleg i hyrwyddo parch, cydraddoldeb a diogelwch ar hyd a lled y gymuned.

Mae’r Rhuban Gwyn yn ymgyrch sy’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol am ei gwaith i roi terfyn ar drais dynion yn erbyn menywod a genethod ifanc drwy herio agweddau niweidiol a chefnogi newid diwylliannol cadarnhaol ar draws sefydliadau yng Nghymru a Lloegr.
Mae’r achrediad yn adeiladu ar y gwaith parhaus yng Ngholeg y Cymoedd i fynd i’r afael â cham-drin menywod a hyrwyddo perthynas o barch. Mae hyn yn cynnwys gweithgaredd dan arweiniad y dysgwyr a gyflwynir gyda ‘She Is Not Your Rehab’ a chydweithrediad sector ehangach trwy brosiectau a ariennir gan ‘Taith’, gan gynnwys aelodaeth o Gymuned Ymarfer gyda chydweithwyr ledled Cymru a Chanada.
Yn gynharach yn y flwyddyn hefyd, bu’r Pennaeth Cynorthwyol, Lisa Purcell, yn rhoi cyflwyniad mewn achlysur sector ‘Taith Pathway 2’, gan gyfnewid dysg o’r DU a Chanada i gefnogi’r ymateb led-led y sector i adroddiad 2023 Estyn ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ym myd addysg bellach.
Caiff gwaith Rhuban Gwyn y coleg ei arwain gan Deke Williams, yr Hyrwyddydd Ymglymu, a bydd yn rhan o gynllun gweithredu tair blynedd wedi ei ganolbwyntio ar hyfforddiant staff, ymglymiad dysgwyr a diwygio’r hinsawdd diwylliannol.
Yn ôl Y Pennaeth, Jonathan Morgan, “Mae’r Achrediad Rhuban Gwyn yn gam pwysig yn ein hatgyfnerthiad o’r diwylliant o barch, cydraddoldeb a diogelwch yng Ngholeg y Cymoedd. Mae’n adlewyrchu cyd-ymdrechion ein staff a’n dysgwyr i herio casineb at fenywod, hyrwyddo perthynas iach a sefyll yn gadarn yn erbyn trais tuag at fenywod a genethod ifanc. Mae’r achrediad hwn yn nodi dechrau rhaglen barhaus o weithredu a dysgu ar draws cymuned ein coleg.”
Mae cyflawni’r achrediad yn nodi dechrau cynllun gweithredu tair blynedd, gan gynnwys darparu hyfforddiant Llysgenhadon a Hyrwyddwyr y Rhuban Gwyn ar gyfer staff ac ymglymiad parhaus â dysgwyr fel rhan o waith ehangach y coleg ar ddiogelu a llesiant.
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR





