Bydd yn barod am brofiad dysgu newydd a chyffrous yng Ngholeg y Cymoedd
Mae Coleg yn brofiad dysgu newydd a chyffrous lle rwyt ti’n cael dy drin fel oedolyn. Mae gyda ti fwy o ryddid a hyblygrwydd yn dy amserlen, ond mae angen i ti hefyd fod yn gyfrifol am dy ddysgu dy hun. Mae hyn yn golygu mynd i dy wersi, gwneud dy waith yn ystod dy wyliau astudio, a rheoli dy amser yn dda i gwrdd â’r terfynau amser.
Paid â phoeni os wyt ti’n teimlo’n nerfus am ddechrau yn y coleg. Nid ti yw’r unig un ac rydyn ni yma i dy helpu. Bydd gyda ti Diwtor Personol a all dy gefnogi gydag unrhyw faterion academaidd neu bersonol. Hefyd, byddi di’n cael mynediad at wasanaethau cymorth y coleg, o gymorth ariannol, iechyd a thrafnidiaeth i gyngor astudio a gyrfa.
Os byddi di’n dechrau dy gwrs ac yn penderfynu nad wyt ti’n mwynhau, paid â phoeni. Mae’r pethau hyn yn digwydd, a dyna pam rydyn ni’n caniatáu hanner tymor cyfan i ti gael penderfynu a wyt ti’n hoffi’r cwrs ai peidio. Os nad wyt ti’n mwynhau, rho wybod i ni, a byddwn ni’n dy helpu i ddod o hyd i ddatrysiad, hyd yn oed os yw hynny’n golygu newid i gwrs gwahanol yn gyfan gwbl.
Rydyn ni’n poeni am dy iechyd meddwl a dy les ac rydyn ni am i ti deimlo’n ddiogel a dy fod yn cael dy gefnogi yn y coleg. Rydyn ni’n deall bod rhai dysgwyr wedi mynd drwy brofiadau anodd neu drawmatig, ac rydyn ni’n ceisio bod yn sensitif ac yn barchus o dy anghenion a dy deimladau. Hefyd, rydyn ni eisiau dy helpu i ddatblygu dy hyder, dy sgiliau a dy wytnwch. Mae gyda ni strategaeth coleg gyfan a Thîm Lles a Diogelu i hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol a lles i bawb.
Coleg yw’r lle gorau i gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau oherwydd byddi di gyda’r rhai sydd â’r un diddordebau a nodau â ti. A gyda CymoeddXtra, gelli di ymuno â chlybiau, cymdeithasau a digwyddiadau i gael hwyl a dysgu sgiliau newydd. Byddi di’n dysgu rhagor am hyn yn ystod dy gyfnod sefydlu a Ffair y Glas – wythnos i dy helpu di i ddod i arfer â bywyd coleg a chwrdd â dy diwtoriaid cyn i’r gwersi ddechrau. Byddi di’n teimlo’n gartrefol mewn dim o dro.
Yn ystod dy amser yn y coleg, byddi di’n cael llawer o gyfleoedd i ddysgu pethau newydd a gwella dy sgiliau. O brofiad gwaith a chystadlaethau cenedlaethol, i deithiau a chonfensiynau prifysgol, byddi di’n barod i gymryd dy gam nesaf pan fyddi di’n ein gadael ni, boed hynny’n addysg bellach, hyfforddiant neu waith.
Allwn ni ddim aros i dy groesawu i Goleg y Cymoedd yn fuan a dy helpu i gyflawni dy botensial. Cer i’r dderbynfa ar dy ddiwrnod cyntaf ac fe wnawn ni roi gwybod i ti ble mae angen i ti fynd.
Os nad wyt ti wedi gwneud cais eto, mae amser o hyd i ymuno â ni ym mis Medi eleni a chychwyn dy daith gyda ni.

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR




