Hwb i’r LCA: Coleg y Cymoedd yn croesawu Vikki Howells MS

Roedd Coleg y Cymoedd yn falch o groesawu Vikki Howells MS i’w Gampws Nantgarw yr wythnos diwethaf.

Cyfarfu’r Gweinidog â dysgwyr sy’n derbyn Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) a thrafododd ei effaith ar eu bywydau, gan ganiatáu iddynt ddilyn Addysg Bellach.

Hefyd, roedd cynrychiolydd o Gyllid Myfyrwyr Cymru yn bresennol i fynd i’r afael ag ymholiadau dysgwyr a thrafod ffyrdd o wella cyfathrebu ynghylch LCA.

Ddydd Llun, 27 Ionawr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynnydd yn y trothwy ar gyfer incwm aelwydydd, gan alluogi mwy o deuluoedd i fod yn gymwys ar gyfer LCA.

Yn eu datganiad i’r wasg, dywedodd Llywodraeth Cymru: “Grant wythnosol o £40 yw’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA), sydd wedi’i gynllunio i gefnogi pobl ifanc 16 i 18 oed o aelwydydd cymwys gyda chostau addysg bellach, fel cludiant neu brydau bwyd.

“Ar hyn o bryd mae dros 16,000 o fyfyrwyr yn derbyn LCA ond gan ddechrau o’r flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi amcangyfrifir y bydd 3,500 yn fwy o ddysgwyr yn elwa o’r ymgodiad.

“Y trothwy ar gyfer aelwydydd ag un plentyn dibynnol ar hyn o bryd yw £20,817 a bydd hyn yn cynyddu i £23,400, sy’n golygu y bydd teuluoedd ag incwm cartref o £23,400 neu lai yn gymwys i dderbyn LCA.

“Y trothwy ar gyfer aelwydydd gyda dau ddibynnydd neu fwy ar hyn o bryd yw £23,077 a bydd hyn yn cynyddu i £25,974, sy’n golygu y bydd teuluoedd ag incwm cartref o £25,974 neu lai yn gymwys i dderbyn LCA.”

Dywedodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells: “Mae Cymru eisoes yn darparu’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg mwyaf hael yn y DU, gan helpu dysgwyr ôl-16 i barhau i astudio cyrsiau academaidd neu alwedigaethol, ac mae’r newid hwn yn golygu y byddwn ni nawr yn cefnogi miloedd yn fwy o ddysgwyr.

“Rydym yn falch iawn o’n record o gynnal a chynyddu’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg. Rydym yn glir bod ein Cyllideb Ddrafft yn gyllideb ar gyfer dyfodol mwy disglair ac mae’r cynnydd mewn cymhwysedd LCA yn un o’r ffyrdd yr ydym yn cyflawni hyn. Mae’r cyhoeddiad yn golygu y bydd miloedd yn fwy o ddysgwyr nawr yn elwa o gymorth ariannol pellach i barhau neu ddechrau eu taith addysg bellach.”

Dywedodd Jonathan Morgan, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Rydw i wrth fy modd gyda phenderfyniad Llywodraeth Cymru i gynyddu’r trothwy incwm cartref ar gyfer y Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA).

“Mae’r LCA yn gwella symudedd cymdeithasol yn sylweddol trwy gynnig cymorth ariannol i fyfyrwyr a allai fel arall ei chael hi’n anodd talu costau addysg ôl-16.

“Trwy godi’r trothwy incwm cartref, bydd mynediad i addysg yn cael ei ehangu, gan alluogi mwy o fyfyrwyr o deuluoedd incwm ychydig yn uwch i gymhwyso ar gyfer y lwfans, gan feithrin mwy o gydraddoldeb mewn cyfleoedd addysgol.

“Mae hyn yn y pen draw yn arwain at gyflawniad addysgol uwch a rhagolygon swyddi gwell. Mae hyn yn hanfodol gan fod llawer o deuluoedd yn ein cymunedau yn parhau i wynebu heriau ariannol.”

I gael rhagor o wybodaeth am grantiau a chyfleoedd ariannol sydd ar gael i ddysgwyr, cer i: Chyfloedd Ariannol

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Porth Dysgwyr a Staff Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd