Mae tri myfyriwr Safon Uwch o Goleg y Cymoedd wedi cael eu hanrhydeddu gyda gwobr Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru i gydnabod eu perfformiad academaidd eithriadol.
Roedd y coleg yn falch o groesawu Dr Jane Croad, Warden Iau Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, i’r campws yn Nantgarw i gyflwyno’r wobr a rhodd ariannol i’r myfyrwyr Seth Olner, Grace Bennett, ac Amber-Leigh Mitchell.
Cwblhaodd Seth, Grace, (yn y llun) ac Amber eu hastudiaethau yn y coleg yn 2024 ac maent i gyd ar fin mynychu Prifysgol Rhydychen ar ôl cael canlyniadau Safon Uwch rhagorol.
Enillodd Grace A*, A*, A mewn Bioleg, Cemeg a Mathemateg a sicrhau lle yng Ngholeg Hertford, Rhydychen, i astudio Biocemeg.
Enillodd Seth A*, A, A mewn Hanes, Llenyddiaeth Saesneg, a Llywodraeth a Gwleidyddiaeth a bydd yn astudio’r Gyfraith yng Ngholeg Newydd Rhydychen.
Mae Amber-Leigh wedi sicrhau lle i astudio’r Clasuron a Saesneg yng Ngholeg y Drindod, Prifysgol Rhydychen, ar ôl derbyn A* ac A mewn Astudiaethau Drama a Theatr Safon Uwch, Iaith Saesneg a Llenyddiaeth, ar ôl cwblhau Lefel 3 eisoes mewn Celf a Dylunio.
Wrth gyflwyno’r wobr, llongyfarchodd Dr Croad y tri ar eu canlyniadau ac ar sicrhau eu lle ym Mhrifysgol Rhydychen.
Eglurodd mai un o brif amcanion Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru yw hyrwyddo addysg yng Nghymru, ac mae’r ‘Gwobrau Ysgolion’ yn cynnig cyfle i gydnabod dysgwyr sydd wedi cyflawni canlyniadau rhagorol.
Gan nodi eu llwyddiannau a’r wobr, meddai’r Pennaeth Jonathan Morgan, “Rydyn ni mor falch o Amber-Leigh, Grace, a Seth. Mae hyn yn gyflawniad sylweddol iddyn nhw, ac rwy’n gwybod eu bod wedi gweithio’n galed i fodloni gofynion Rhydychen.
“Rydyn ni’n dymuno pob llwyddiant iddynt yn y dyfodol ac yn credu, o ystyried eu hymroddiad, y byddant yn cyflawni pob uchelgais. Rwy’n gobeithio y byddant yn parhau i gadw mewn cysylltiad â’r coleg i ysbrydoli dysgwyr y dyfodol.
“Hoffwn ddiolch i Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru; rydyn ni’n gwerthfawrogi eu cefnogaeth barhaus i ddysgwyr y Cymoedd, ac rwy’n siŵr y byddant yn cytuno – mae Amber-Leigh, Grace, a Seth yn llwyr haeddiannol o’r Wobr.”
I ddarllen mwy am Safon Uwch yng Ngholeg y Cymoedd: Lefel A
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR




