Mae dysgwyr Coleg y Cymoedd yn gweithio gydag Urdd Gobaith Cymru i gyflwyno eu Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2025

Mae grŵp o ddysgwyr Coleg y Cymoedd wedi ymuno ag Urdd Gobaith Cymru i gyflwyno Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd 2025, gan apelio am newid i fynd i’r afael â thlodi yn y wlad.

Mae’r Neges Heddwch ac Ewyllys Da, sydd bellach yn ei 103ain flwyddyn, yn cael ei chreu bob blwyddyn gan bobl ifanc Cymru a’i rhannu â nifer cynyddol o bobl ledled y byd; Yn 2024 fe’i rhannwyd mewn mwy na 50 o ieithoedd ac mewn 47 o wledydd. Roedd ei gyrhaeddiad ar gyfryngau cymdeithasol yn unig yn fwy na 10 miliwn.

Yn gynharach eleni, mynychodd dros 15 o ddysgwyr o Goleg y Cymoedd weithdy cychwynnol gydag Urdd Gobaith Cymru ochr yn ochr â Katie Hall o’r band Chroma, y dylunydd graffeg Steffan Dafydd a’r elusen fyd-eang Achub y Plant i weithio ar neges Heddwch ac Ewyllys Da 2025.

Mae’r neges yn galw brys am newid ar ôl i ystadegau diweddar Llywodraeth y DU gadarnhau bod bron i un o bob tri o blant (31%) yng Nghymru bellach yn byw mewn tlodi. “Mae’n cymryd pentre’ i fagu plentyn… Byddwch yn bentref i ni,” meddai’r neges.

Dywedodd Tia-Louise Griffiths, dysgwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Coleg y Cymoedd a helpodd i greu Neges Heddwch ac Ewyllys Da eleni: “Rydyn ni i gyd yn yr un cwch. Does neb ar fai, ond gallwn weithio tuag at gael gwell dealltwriaeth o ba gamau bach y gallwn eu cymryd i wneud gwahaniaeth.”

Dywedodd Jonathan Morgan, Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg y Cymoedd:  “Rydym mor falch o’r dysgwyr sydd wedi gweithio ar y prosiect hwn a’r rôl allweddol y maent wedi’i chwarae.  Mae’r neges yn un bwerus, gyda thlodi yn effeithio ar lawer yn yr ardaloedd y mae Coleg y Cymoedd yn eu gwasanaethu ac ar draws Cymru”

Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: “Fel y dengys neges bwerus eleni, gall pobl ifanc yng Nghymru fynegi’n berffaith anghyfiawnder tlodi, ei effeithiau arnyn nhw a’u cymunedau. Mae’r ystadegau diweddar ynghylch tlodi plant yng Nghymru yn ein cywilyddu ni i gyd, ac rydym yn gobeithio’n ddiffuant y bydd neges eleni yn ysbrydoli newid ystyrlon. Mae’r Urdd wedi gwneud llawer o ymrwymiadau o’r fath, er enghraifft ein Cronfa i Bawb. Ond mae mwy i’w wneud – a heddiw rydym yn gwahodd y byd i’n helpu i rannu’r alwad honno i ddileu tlodi plant.”

Dywedodd Melanie Simmonds, Pennaeth Achub y Plant Cymru : “Pan fyddwn yn siarad â phlant a phobl ifanc am eu profiadau o fyw mewn tlodi, maen nhw’n dweud wrthym fod angen mwy o arian ar deuluoedd i allu fforddio anghenion sylfaenol a sut y gall tyfu i fyny mewn ardaloedd o amddifadedd uchel effeithio ar eu hiechyd meddwl a’u lles. Maen nhw hefyd yn sôn am obaith – gobaith y bydd eu dyfodol yn wahanol. Dyma pam mae angen i ni gyd weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod pob plentyn yn gallu ffynnu. Rydym yn falch iawn o fod wedi chwarae rhan yn anfon y neges bwerus hon gan ieuenctid Cymru i’r byd ehangach; mae’n rhaid i ni roi terfyn ar dlodi plant.” 

Rhyddhawyd y ffilm fer, lle mae’r neges eleni yn cael ei darllen gan ei hawduron, ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol yr Urdd a’i darllen yn fyw ar BBC Radio Wales (gan Tia-Louise Griffiths) a BBC Radio Cymru.

Mae’r Urdd yn annog pobl ledled y byd i ledaenu neges eleni trwy ei rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol a defnyddio’r hashnod #Heddwch2025.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Porth Dysgwyr a Staff Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd