Mae prentisiaid o Goleg y Cymoedd wedi cynyddu eu sgiliau ymarferol a’u hyder yn Nenmarc a Phortiwgal drwy gynlluniau cyfnewid dysgu wedi eu hariannu gan gynllun ‘Taith’.
Yn ddiweddar, teithiodd prentisiaid Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Ddenmarc, gan ymweld â Phentref Dementia Svendborg, cymuned arloesol sy’n cynorthwyo pobl â dementia i fyw’n annibynnol a gydag urddas.
Yn ystod yr ymweliad, bu’r prentisiaid yn dystion i ofal person-ganolog ar waith, yn dysgu sut gall technoleg gefnogi gofal dyddiol ac yn gweld dulliau o fynd ati sy’n canolbwyntio ar lesiant. Ymwelwyd hefyd â Choleg SOSU i weld sut mae gweithwyr gofal proffesiynol Denmarc yn cael eu hyfforddi drwy ddysgu ymarferol wrth eu gwaith.
Yn ôl un o’r prentisiaid: “Roedd gweld y llawenydd ar wynebau’r preswylwyr a’r staff yn ysbrydoliaeth. Ar ôl y profiad hwn, rwy’n teimlo mod i’n fwy cymwys i ofalu am rai sy’n byw â dementia.”
Ar daith arall, teithiodd prentisiaid Gweinyddu Busnes a CIPD i Figueira ym Mhortiwgal, gan wneud gwaith ar leoliad mewn swyddfeydd ac adrannau Adnoddau Dynol. Roedd y profiad yn cynnig golwg ar waith busnesau mewn gwahanol wledydd ac yn pwysleisio’r angen am gyfathrebu eglur wrth weithio mewn timau amlieithog.
Yn ôl un o’r dysgwyr:“Bu’r daith yn help i mi ddeall sut mae gwahanol wledydd yn gweithio. Mae sgiliau cyfathrebu a ieithoedd yn hanfodol wrth weithio â phobl o rannau eraill o’r byd.”

Yn achos y ddwy daith, nododd y prentisiaid fod hyn wedi cynyddu eu hyder a chynnig gwell dealltwriaeth o wahanol ddiwylliannau. Bu’r staff yn canmol proffesiynoldeb y prentisiaid, gyda’r balchder a gasglwyd, ynghyd â’r syniadau newydd fydd yn gymorth iddyn nhw yn eu gyrfaoedd.
Mae Coleg y Cymoedd wedi ymrwymo i ehangu mynediad i’r cyfleoedd rhyngwladol hyn, sy’n helpu prentisiaid i ddysgu o arferion tramor ac chyflwyno syniadau newydd fydd o fantais i wasanaethau, busnesau a chymunedau lleol.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn prentisiaeth sy’n cynnig mwy na dysgu mewn ystafell ddosbarth, yna ewch i weld ein rhaglenni prentisiaeth.
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR





