Taith teulu drwy Goleg y Cymoedd: Etifeddiaeth o Ragoriaeth

Mae Coleg y Cymoedd bob amser wedi bod yn lle sy’n meithrin twf academaidd ac ymdeimlad cryf o gymuned. Mae profiad diweddar y teulu Pearce yn enghraifft wych o faint mae’r coleg yn ei olygu i’w ddysgwyr a’u teuluoedd.

“Heddiw, cefais y fraint o fynd â fy mab i gofrestru yng Ngholeg y Cymoedd, Ystrad Mynach,” meddai’r rhiant balch Shaun Pearce. 

“Cawsom groeso cynnes gan y staff a’r dysgwyr, a oedd yn hynod o gymwynasgar. Cefais y pleser annisgwyl o daro i mewn i un o fy hen ddarlithwyr—wyneb cyfarwydd o dros 20 mlynedd yn ôl pan oeddwn i’n ddysgwr yno fy hun. Mae’r lle wedi newid cymaint ers hynny, ac roedd yn wirioneddol hyfryd gweld pa mor wych mae’r lle’n edrych nawr.”

Mae ymdeimlad Shaun o hiraeth yn mynd law yn llaw â’i frwdfrydedd dros yr hyn sydd o’i flaen. Wrth sôn am wyneb eiddgar ei fab,  y myfyriwr newydd Kaydan, dywedodd: “Pan drodd yr aelod staff at fy mab a dweud, ‘rwyt ti mewn’, roedd ei wyneb yn fythgofiadwy; wedi goleuo â llawenydd. Wrth yrru adref, cefais gipolwg arno’n edrych ar ei fathodyn adnabod newydd ac yn sibrwd wrtho’i hun, ‘Dw i mewn.’ Roedd y llawenydd ar ei wyneb yn amlwg, dyn ifanc yn gwireddu breuddwyd. Mae fy nghalon wedi chwyddo gyda balchder!”

Roedd y cyfnod hwn yn bwysig i’r teulu cyfan. O oedran cynnar, roedd Kaydan, wedi bod eisiau ymuno â’r heddlu. 

Wedi’i ysbrydoli gan staff Gwasanaethau Cyhoeddus profiadol Coleg y Cymoedd, gyda llawer ohonynt yn gyn-filwyr ac yn gyn-swyddogion Heddlu, roedd Kaydan, yn teimlo’n hyderus y  byddai’r cwrs Lefel 3 Uniformed Public Services yn ei helpu i wireddu ei freuddwyd.

Mae campws Ystrad Mynach, a elwodd o fuddsoddiad o £9 miliwn yn 2023, bellach yn cynnwys cyfleusterau modern sy’n gwella’r profiad addysgol.

Bydd Kaydan yn hyfforddi mewn cyfleuster chwaraeon newydd gwerth £2.5 miliwn, sy’n cefnogi tua 100 o ddysgwyr chwaraeon bob blwyddyn, gan gynnwys y rhai yn yr academïau Rygbi’r Gynghrair a Phêl-droed i Ferched.

Mae ymrwymiad Coleg y Cymoedd i’r gymuned yn amlwg yn ei ymdrechion i helpu pob dysgwr i gyflawni ei nodau gyrfa. Gyda dros 400 o gyrsiau yn amrywio o gyrsiau Gofal i Adeiladwaith, mae llwybr i bawb, ac mae stori teulu Pearce yn dangos yr effaith y mae’n ei chael ar y gymuned leol.

Wrth i’r flwyddyn academaidd newydd ddechrau, mae Coleg y Cymoedd yn parhau i arwain dysgwyr at lwyddiant. Mae’r coleg yn parhau i fod yn sefydliad allweddol ar gyfer addysg ac ysbryd cymunedol yn Ne Cymru.

Mae modd cofrestru o hyd yng Ngholeg y Cymoedd gyfer Medi 2024. Am ragor o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael, ewch i’ch campws lleol rhwng 9am a 4pm yn ystod yr wythnos.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Porth Dysgwyr a Staff Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd