Tiberiu Dancovici yn derbyn un o saith Cymrodoriaeth Addysgu Technegol hynod gystadleuol

Mae Tiberiu Dancovici, Rheolwr Dysgu ac Arloesedd Digidol yng Ngholeg y Cymoedd] wedi derbyn un o ddim ond saith Cymrodoriaeth Addysgu Dechnegol ar gyfer 2025/26. Rhoddir y gwobrau mawreddog hyn ar y cyd gan y Sefydliad Addysg a Hyfforddiant (ETF) a’r Comisiwn Brenhinol ar gyfer Arddangosfa 1851.

 Bydd Cymrodoriaeth Tiberiu Dancovici yn edrych ar sut y gall Deallusrwydd Artiffisial asiantol wella ac ymestyn strategaethau addysgu a dysgu ar gyfer dysgu galwedigaethol, drwy alinio gallu AI â methodolegau addysgol.

Dyfarnwyd y Cymrodoriaethau yn ffurfiol mewn digwyddiad a gynhaliwyd yn y Gymdeithas Frenhinol yn Llundain ddydd Gwener 28 Mawrth. Yn y digwyddiad gwelwyd cyn-gymrodorion yn cyflwyno [DB1] ar eu gweithgarwch yn sgil eu Cymrodoriaeth a’i effaith.

Mae ceisiadau am Gymrodoriaethau Addysgu Technegol yn cael eu hasesu yn erbyn meini prawf gan gynnwys arddangos dulliau hynod effeithiol o wella addysgu a dysgu mewn addysg dechnegol, sut y bydd y Gymrodoriaeth yn cael ei defnyddio i ysbrydoli eraill, a chynllunio cyfleoedd datblygiad proffesiynol i effeithio ar addysgeg ac ymarfer proffesiynol athrawon a hyfforddwyr eraill.

Oherwydd ansawdd uchel y ceisiadau eleni, Cymrodyr 2025/26 yw’r garfan fwyaf eto gyda saith Cymrodoriaeth yn cael eu dyfarnu i naw Cymrawd. Ymhlith carfan eleni mae’r Cymrawd cyntaf o Ynysoedd y Sianel yn ogystal â Chymrodyr Addysgu Technegol o bob rhan o Gymru a Lloegr.

Bydd Cymrodyr yn datblygu gweithgareddau trosglwyddo a chyfnewid gwybodaeth, gan rannu ymarfer effeithiol mewn cynadleddau cenedlaethol a rhanbarthol a thrwy rwydweithiau, hwyluso DPP a chyfrannu at arweinyddiaeth meddwl trwy gymuned ymarfer dechnegol sefydledig. Hefyd, byddant yn cyfrannu at adroddiad terfynol i ymgysylltu ac ysgogi ymarferwyr addysg dechnegol yn eu meysydd pwnc arbenigol.

Mae’r holl Gymrodyr bellach hefyd yn cael eu hystyried yn fyfyrwyr y Comisiwn Brenhinol, sy’n rhoi cymorth pellach iddynt i yrru gwelliant ansawdd mewn addysgu a hyfforddiant STEM technegol.

Ewch i wefan ETF am y stori lawn.

DIWEDD

Ynglŷn â’r Sefydliad Addysg a Hyfforddiant

Mae’r Sefydliad Addysg a Hyfforddiant (ETF) yma i hyrwyddo rôl hanfodol y gweithlu Addysg Bellach a Sgiliau, gosod safonau proffesiynol a darparu llwybr datblygiad proffesiynol i addysgwyr ac arweinwyr ar draws y sector. Trwy weithio mewn partneriaeth a llywio newid yn y sector, rydym yn sicrhau sector AB a Sgiliau ffyniannus. Gyda’n gilydd, rydym yn trawsnewid bywydau a chyfleoedd i ddysgwyr 14 oed a hŷn.

Ynglŷn â’r Comisiwn Brenhinol ar gyfer Arddangosfa 1851

Mae’r Comisiwn Brenhinol ar gyfer Arddangosfa 1851 yn dyfarnu tua 35 o Gymrodoriaethau ac Ysgoloriaethau ôl-raddedig y flwyddyn, ar gyfer astudiaethau ac ymchwil uwch mewn gwyddoniaeth, peirianneg, yr amgylchedd adeiledig a dylunio. Hefyd, mae’n cynnig nifer fach o Wobrau Arbennig i gefnogi prosiectau sy’n cyd-fynd â’i nodau cyffredinol. Mae llawer o’r rhain yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth yr ifanc o’r cyfleoedd a gyflwynir gan wyddoniaeth a pheirianneg.


Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Porth Dysgwyr a Staff Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd