Curodd dau ddysgwyr o Goleg y Cymoedd dri dwsin o dimoedd i ennill y wobr gyntaf mewn sialens yn efelychu stociau Byd eang ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Bu Anthony Samuel o Bentre’r Eglwys a Jonathan Land o Riwbeina, Caerdydd, sy’n astudio Diploma Estynedig Lefel 3 TG, yn cystadlu yn erbyn colegau eraill ac aelodau chweched dosbarth ysgolion eraill i wynebu sefyllfaoedd byd sy’n newid yn gyflym. Roedd y sialens yn cynnwys ymateb yn gyflym i ddigwyddiadau i gynnal gwerth eu rhanddaliadau.
Cymerodd pedwar tîm o ddau fyfyriwr o Goleg y Cymoedd ran yn y gystadleuaeth i fasnachu mewn rhith farchnad stoc Byd eang a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd mewn cydweithrediad gyda First Campus.
Gweithiodd y chwaraewyr mewn parau ar sgrinau cysylltiedig: un ar gyfer Dadansoddwr y Buddsoddiadau ac un ar gyfer Dadansoddwr y Cyfnryngau. Eu tasg oedd codi gwerth cronfa ariannol cychwynnol eu tîm drwy brynu a gwerthu rhanddaliadau mewn deuddeg cwmni a thri o nwyddau.
Ynghyd ag ymarfer ffyrnig, cafodd pob tîm oedd yn cynrychioli Coleg y Cymoedd eu mentora gan gynrychiolydd o HSBC. Daeth y timoedd yn y deg cyntaf yn dod yn 1af, 4ydd, 6ed a 7fed.
Dywedodd Jonathan Land, un o’r dysgwyr: “Roedd yn brofiad pleserus ac yn hwyl ond hefyd helpodd fi i wella fy sgiliau cyfathrebu ar lafar, sgiliau gweithio mewn tîm a hefyd rheoli fy arian, sgiliau y bydd eu hangen arna i pan fydda i’n cychwyn ym Mhrifysgol Exeter yn yr Hydref!â€
Dywedodd y tiwtor, Libby Williams: “Roedd yn ddigwyddiad ffantastig! Cafodd yr holl fyfyrwyr a gymerodd ran brofiad gwych, nid yn unig dysgu am fyd cyflym marchnadoedd buddsoddi ond hefyd pwysigrwydd gweithio mewn tîm, datrys problemau a dadansoddi data. Mae’r rhain yn sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw. Dw i’n falch iawn o’u hymdrechion. Roedden nhw’n glod i Goleg y Cymoedd.â€
Dywedodd y tiwtor, Barbara Hayman: “Roedd fy myfyrwyr Blwyddyn 1 a gymerodd ran yn y digwyddiad wrth eu bodd i fod yn y deg uchaf o’r 37 timoedd coleg a chweched dosbarth oedd yn cystadlu. Rydw innau hefyd yn hynod falch o’u cyflawniadau.â€
Bydd yr enillwyr nawr yn ymweld â Chyfadran Busnes Campws Trefforest, Prifysgol De Cymru, i gael gweithdy yn eu Hystafell Masnachu.