O Ddysgu Sylfaen i PHD

Mae’r Tîm o ddarpar entrepreneuriaid o Goleg y Cymoedd ddatblygodd fan gwerthu bwydydd iach, o’r enw ‘Monkey Nuts’, wedi ennill £1000 yng nghystadleuaeth ‘Edge Challenge’, gornest cloriannu entreprenuriaeth.

Roedd y tîm, ‘Future Foods’, sef Liam Williams (17) o Lantrisant, Robert Haycox (17) Glynrhedynog (Ferndale), Lauren Quinn (19) o Donypandy a Flynn Randell (17) o Bontypridd, wedi cyflwyno cynnig manwl a hyfyw oedd yn cynnwys cynlluniau ariannol a marchnata, wrth wynebu ymgeiswyr gobeithiol o bob cwr o’r wlad.

Cyrhaeddodd tri thîm a chwe unigolyn y rhestr fer a chael eu gwahodd i gyflwyno’i syniadau i banel yn Llundain.

Wedi hynny, bu’r ddau dîm olaf a thri unigolyn yn cyflwyno eu syniadau busnes yn y ‘ Skills Show’ yn Birmingham – ac fe ddaeth syniad arloesol a synnwyr busnes ardderchog a gwobr i ‘Future Food’.

Y tîm buddugol oedd ‘Card Stack, o Goleg Barking & Dagenham, gyda syniad am gardiau busnes digidol.

Dyfarnwyd y gwobrau unigol i David Humpston (19), Jack Crofts (17) a Gavin Bell (20).

Y Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, gyflwynodd eu gwobr i Future Foods, gwobr fydd yn mynd at ddatblygu eu syniad busnes.

Lansiwyd gornest ‘Edge Challenge’ y llynedd gan elusen addysgiadol annibynnol, Edge Foundation, mewn partneriaeth gyda’r ‘Peter Jones Enterprise Academy’ a Grŵp Colegau’r Gazelle. Ei nod ydy helpu entrepreneuriaid ifanc i roi cychwyn ar eu busnes.

Dywedodd aelodau ‘Future Foods’: Roedden ni mor gyffrous ein bod wedi ennill gwobr yng nghystadleuaeth Edge Challenge! Rydyn ni’n ysu i gael defnyddio’r £1000 i’n cychwyn ni i redeg ein busnes go iawn. Rydyn ni’n hapus ein bod ni wedi gwneud y gorau o’r cyfle hwn ac yn bendant yn cymell eraill i gystadlu’r flwyddyn nesaf.”

Yn ôl Jan Hodges OBE, Prif Weithredwr yr elusen addysgiadol annibynnol ‘Edge Foundation’: “Rydw i’n llongyfarch Future Foods yn gynnes iawn ar eu camp heddiw yn ail gystadleuaeth yr Edge Challenge. Yn sefydliad ‘Edge’ rydyn ni’n credu bod sawl llwybr y gall pobl ifanc ei ddewis a’i ddilyn i lwyddo ac y mae bod yn entrepreneuriaid yn sicr yn gyfeiriad ardderchog a chyffrous i’w ddewis. Rwy’n dymuno’r gorau i’r tîm yn y dyfodol.”

Dywedodd Peter Jones CBE, Sefydlydd y ‘Peter Jones Enterprise Academy’: Yma yn sefydliad y ‘Peter Jones Enterprise Academy’ rydyn ni wedi gwir fwynhau bod yn rhan o gychwyn yr ‘Edge Challenge’ am yr ail flwyddyn yn olynol, mewn partneriaeth â Grŵp Colegau Gazelle. Rydw i’n falch iawn bod cyn fyfyrwyr o’r ‘Peter Jones Enterprise Academy’ wedi cael y cyntaf ail a thrydydd yn yr ornest i unigolion.

“Mae Future Foods yn enillwyr haeddiannol. Gobeithio bydd myfyrwyr yr Academi yn y dyfodol yn cael eu hysbrydoli gan lwyddiannau’r rhai buddugol eleni ac yn rhoi hyder ac awydd ynddyn nhw i ddilyn eu breuddwydion.

“Mae’n wych gweld bod yna barth menter arbennig yn y ‘Skills Show’ eleni. Maen nhw wedi rhoi entrepreneuriaeth ar ben yr agenda, lle dylai fod beth bynnag, fel ffocws real a phendant, ac rydw i’n cefnogi hyn i’r carn.”

Dywed Fintan Donohue, Prif Weithredwr Grŵp Colegau Gazelle: “Rydyn ni’n falch o gael gweithio am yr ail flwyddyn yn olynol gyda’n partner, Edge Foundation, a’n cyfeillion o’r ‘Peter Jones Enterprise Academy’ i wneud yr ‘Edge Challenge’ yn llwyddiant.

“Efallai na fydd llawer o’r bobl ifanc yn y gystadleuaeth yn mynd ymlaen gyda’u busnesau ond bu’r arbrofi gyda’r gystadleuaeth egin fusnesau yn fodd o ddatblygu meddylfryd fydd atgyfnerthu eu gobeithion am gael swyddi.

“Yn Gazelle, mae cystadleuthau menter wedi dod yn rhan annatod o brofiad y myfyrwyr. Mae enillwyr heddiw yn rolau model fydd yn helpu i greu diwylliant o fenter ac entrepreneuriaeth yn eu colegau eu hunain.”

Dywedodd Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd:”Fel Pennaeth Coleg y Cymoedd, rydwi i’n falch iawn bod ein entrepreneuriaid ifanc ym maes arlwyo wedi dod yn ail yn y gystadleuaeth fawreddog hon. Rydyn ni’n awyddus i gymell ein holl ddysgwyr ac i sicrhau bod ganddyn nhw’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i lwyddo mewn busnes. Mae ein dysgwyr yn llawn ysgogiad ac wedi cymryd yr her hon o ddifrif. Rydw i’n eu llongyfarch am eu llwyddiant yn y rownd derfynol.”

Gallwch wylio ‘ Future Foods’ yn Sialens Edge fan hyn: http://www.youtube.com/watch?v=rHre2qLSPNk&list=UUjYIAjg4pqaOKnHCW6KlMWA

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau