Mae myfyrwraig coleg wedi bod yn mynegi ei gwerthfawrogiad o garedigrwydd ei chydfyfyrwyr yn ddiweddar. Bu Lorran Davies, sy’n astudio ar gwrs gofal, yn egluro fel gwnaeth myfyrwyr y cwrs BTEC Iechyd a Gofal Cymdeithasol ddod ynghyd i roi help i’w theulu.
Mae Loki, mab Lorran, sy’n 20 mis oed yn dioddef o ffibrosis cystig ac y mae’r gymuned wedi cydweithio i godi arian i brynu ‘gwasgod ffisio – physio vest’ iddo. Fe benderfynon nhw, fel rhan o’u cymhwyster Bagloriaeth Cymru, i ddefnyddio’r modiwl Partneriaeth Gymunedol i roi cymorth i Loki.
Bu dwy o’r myfyrwyr gofal, Katie Devinett, 17 oed o Don Pentre a Carly Robins, 19 oed o Drealaw, yn allweddol yn trefnu gweithgareddau i hyrwyddo’r achos da. Yn ôl Katie “Pan glywson ni am Loki, fe fuon ni’n trafod sut i godi arian i brynu’r wasgod physio a chanfod nifer dda o syniadauâ€. Ychwanegodd Carly “Yn ystod ein sesiynau Bagloriaeth Cymru, fe wnaethon ni galendar o weithgaredd, gan gynnwys rafflau, stondinau cacennau a gwerthu mân nwyddau a rydyn ni’n ffaelu credu mor hael mae pawb wedi bod – rydyn ni eisoes wedi codi dros £200.
Yn ôl tiwtor y cwrs, Eva Tewkesbury, “Mae’r myfyrwyr wedi bod yn eithriadol o frwd gyda’r gweithgareddau hyn gan ei fod yn achos agos i’w calonnau; maen nhw’n gallu sylweddoli’r manteision byddai’r wasgod hon yn ei gynnig i Lokiâ€.