Bu grŵp o ddysgwyr Coleg y Cymoedd yn Ystrad Mynach mewn gweithdy diweddar gan Fixers, sefydliad lle mae pobl ifanc yn defnyddio’u gorffennol i sefydlu eu dyfodol. Mae’r bobl hyn wedi eu hysgogi gan brofiad personol i wneud newid positif iddyn nhw eu hunain ac i eraill o’u cwmpas.
Gwahoddwyd y deg dysgwr sy’n astudio Gweinyddu Busnes Lefel 3 a Hanfodion Swyddfa gydag Astudiaethau Paragyfreithiol i fod yn rhan o’r achlysur, lle roedd Shauna Pugh, 21 oed, yn cyflwyno sesiwn, gan fanylu am ei chyflwr o Amnesia Datgysylltiol. Eglurodd ei phrofiadau a’i theimladau wrth ymdopi â’r cyflwr a thrwy gyfres o weithgareddau a thrafodaethau, bu’n ymglymu â’r dysgwyr. Bu Shauna’n rhannu ei gobeithion am astudio mewn prifysgol ac yna, yn 18 oed, tra’n astudio am ei Lefel A, cafodd ddiagnosis bod ganddi Amnesia Datgysylltiol. Er gwaetha’i phrofiadau, mae hi’n dal i obeithio addysgu ei hun ymhellach rhywdro yn y dyfodol.
Roedd y gweithdy’n fuddiol i’r 10 dysgwr, gafodd olwg pellach ar y cyflwr hynod brin hwn. Dywedodd Shannon Kinsey, 17 oed, o’r cwrs Gweinyddu Busnes Lefel 3: Mi wnes i wir fwynhau’r sesiwn. Mae Shauna’n ysbrydoliaeth, mae ganddi agwedd mor bositif ac mae’n awyddus i anfon neges clir allan, yn arbennig i bobl ifanc. Gall salwch meddwl effeithio ar rai o bob oedran ond mae ‘na bod amser rhywun ar gael i’ch helpu, i’ch cynorthwyo ac i ofalu amdanoch chi.”
Cafodd y gweithdy ei ffilmio gan ITV a bydd yn cael ei ddarlledu ym mis Chwefror 2015: http://www.fixers.org.uk/news/11171-11208/memory-loss-fix-on-itv.php
“