Cynhaliwyd Seremoni Wobrwyo Flynyddol gyntaf Coleg y Cymoedd ar gampws Nantgarw Ddydd Mawrth, 9 Medi 2014.
Croesawodd Y Pennaeth, Judith Evans, y gynulleidfa, gan ddweud bod y Seremoni Wobrwyo gyntaf hon yn garreg filltir bwysig i’r coleg yn ogystal â’r dysgwyr oedd yn cael eu gwobrwyo. Mewn coleg lle mae dros 11,000 o ddysgwyr, bu Ms Evans yn llongyfarch y 50 dysgwr oedd wedi’u henwebu gan eu tiwtoriaid am eu cyflawniadau a hefyd diolchodd i’w teuluoedd a’u tiwtoriaid oedd wedi eu helpu yn ystod y flwyddyn.
Rhoddodd Mrs Liz James, Cadeirydd Corfforaeth Coleg y Cymoedd, grynodeb o rôl y Corff Llywodraethol y coleg a mynegodd ei balchder a’u boddhad ynghyd â’i chyd-lywodraethwyr yng nhyflawniadau’r dysgwyr. Croesawyd y dysgwyr a’u gwesteion gan ddysgwyr ar y cwrs Arlwyo a Lletygarwch gan gynnig danteithion blasus a lluniaeth.
Aelodau’r Uwch Dîm Rheoli gyflwynodd yr enillwyr a dderbyniodd wobrau mewn ystod eang o bynciau; gyda Gwobrau ychwanegol yn cael eu cyflwyno i’r dysgwyr hynny oedd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’r iaith Gymraeg drwy gydol y flwyddyn. Cyflwynwyd y gwobrau gan Suzy Drane, Capten Tîm Pêl Rwyd Cymru, yr oedd y coleg wedi’i noddi am y tymor.
Cyflwynwyd dwy Wobr Gyffredinol Derfynol y Coleg i Christopher Rhys Thomas a fu’n astudio ar gwrs Diploma Lefel 2 BTEC mewn TG ac ennill gradd rhagoriaeth ymhob modiwl. Llwyddodd Christopher i oresgyn llawer o rwystrau i gyflawni’r canlyniadau hyn a hefyd bu’n weithgar ac yn aelod cefnogol iawn o’i gwrs.
Derbyniodd Shannon Britton Wobr Gyffredinol hefyd am ei chyflawniad nodedig. Mewn cwta naw mis cyflawnodd Shannon y graddau hynod hyn – A* yn Saesneg, A* yn y Gyfraith a A yn Hanes, a sicrhaodd ei lle yn Rhydychen i astudio Saesneg.
Yn ei hanerchiad diolchodd Suzy Drane i’r coleg am eu nawdd drwy gydol y flwyddyn ac am y gwahaoddiad i siarad yn y Noson Wobrwyo. Soniodd am ei thaith o fod yn chwaraewr ifanc i fod yn Gapten y Tîm Pêl Rwyd yn ystod Gemau’r Gymanwlad yn ddiweddar a rhannodd ychydig o’r uchafbwyntiau a’r isel fannau a’r hyfforddiant oedd ei angen ar eu cyfer. Pwysleisodd bwysigrwydd cael cymorth teulu a ffrindau ymhob maes, boed yn chwaraeon neu addysg, a’i gobaith oedd y byddai’n cwrdd â rhai o’r dysgwyr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd lle mae’n darlithio ar hyn o bryd.
Roedd dysgwyr o’r cwrs y Celfyddydau Perfformioyn amlwg yn y seremoni; James Owen oedd cyflwynydd y noson a bu’n arwain y rhaglen ddwyieithog yn broffesiynol iawn. Tynnodd Arwel Harris y lle lawr pan ganodd ‘Stars’ mewn cyflwyniad teilwng o lwyfan sioeau cerdd unrhyw theatr fawr.
Wrth gloi’r noson, diolchodd Y Pennaeth i’r dysgwyr a’u gwahoddedigion a phawb oedd wedi gwneud y noson yn llwyddiant. Meddai: “Mae nosweithiau fel hyn yn cadarnhau pam ein bod yma a’r swyddogaeth bwysig sydd gennym yn nyfodol ein dysgwyr. Mae gennym gyfoeth o dalent drwy’r Bwrdeistrefi Sirol a gobeithio bod Coleg y Cymoedd wedi eich cychwyn ar eith taith o ddysg. Dymunwn bob lwc i chi ar gyfer y dyfodol, naill ai wrth barhau â’ch astudiaethau yng Ngholeg y Cymoedd, gan fynd ymlaen i brifysgol, neu mewn gwaith.â€
ffotograffydd: Kirstie Wilkinson