O ydyn ddim…Rhan flaenllaw yn Creu Gwisgoedd

Bydd unarddeg yn cystadlu am deitl Cogydd Iau Cymru a gwobr wych pan gynhelir dwy rownd gyn-derfynol ranbarthol y mis hwn.

Cynhelir rownd De Cymru yng Ngholeg y Cymoedd, Nantgarw, Ionawr 14, pan fydd pum cogydd yn cystadlu yn cynnwys dau o ddysgwyr Coleg y Cymoedd a fydd yn cystadlu yn erbyn cogyddion sydd eisoes yn gweithio mewn bwytai a gwestai adnabyddus.

Ar wahân i’r bri o fod yn gogydd ifanc gorau Cymru, bydd y pencampwr hefyd yn ennill taith i ddinas Athen i gynrychioli Cymru yn Fforwm Iau Cynhadledd Cymdeithas y Byd o Gymdeithasau’r Cogyddion ym mis Mai 2016,

Bydd enillwyr pob rownd ynghyd â dau a gafodd y sgôr uchaf o blith y rhai ddaeth yn agos yn mynd ymlaen i gystadlu yn y rownd derfynol a gynhelir yng Ngholeg Llandrillo ar Chwefror 16, diwrnod cyn Pencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru.

Trefnir cystadleuaeth Cogydd Iau Cymru bob dwy flynedd gan Gymdeithas Goginio Cymru ac mae’n cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo’r brand Bwyd a Diod o Gymru (Food and Drink Wales).

Gofynnwyd i’r cogyddion gyflwyno eu bwydlen greadigol eu hunain ar gyfer cinio tri chwrs i bedwar o bobl, gan ddefnyddio detholiad o gynhyrchion Cymru. O’r ffurflenni cais a’r bwydlenni, dewisodd panel o feirniaid profiadol yr ymgeiswyr gorau i gystadlu yn y rowndiau terfynol rhanbarthol lle byddan nhw’n cael tair awr i baratoi eu prydau.

Cystadleuwyr rownd De Cymru ydy: Ian McCormack a Wensley Macauly o Goleg y Cymoedd ynghyd â Benjamin Cooke o Brains, Caerdydd, Andrew Tabberner o Fwyty’r Coast, Saundersfoot, a Vivienne Read o Westy’r Celtic Manor, Casnewydd.

Dyweoddd Colin Gray, Llywydd Cymdeithas Goginio Cymru a pherchennog Capital Cuisine, ei fod wrth ei fodd gyda nifer yr ymgeiswyr eleni ac yn edrych ymlaen at gystadleuaeth agos yn y rowndiau cyn-derfynol.

Eglurodd y gallai’r gystadleuaeth fod yn gam ar y ffordd i ymuno â Thîm Coginio Iau Cymru yn y dyfodol.

“Mae cystadleuaeth Cogydd Iau Cymru yn llwyfan perffaith i gogyddion ifanc arddangos eu sgiliau a dal llygad dewiswyr y tîm cenedlaethol,” ychwanegodd. “Mae enillwyr blaenorol wedi mynd ymlaen i gystadlu dros Gymru ymhob cystadleuaeth goginio bwysig o gwmpas y byd.

“Er enghraifft, enillydd Cogydd Iau Cymru 2013, oedd Chris Tull, a fe oedd capten Tîm Coginio Iau Cymru yng nghystadleuaeth Cwpan Coginio’r Byd yn Luxembourg lle enillon nhw fedalau arian ac efydd .”

Cychwynnwyd ar y broses o chwilio am sêr coginio’r dyfodol gyda rownd gyn-derfynol Gogledd Cymru yng Ngholeg Llandrillo, Llandrillo-yn-Rhos, lle bu chwe chogydd yn cystadlu am le yn y rownd derfynol.

Dyma’r rhai fydd yn cystadlu yn rownd Gogledd Cymru: Arron Tye o Shared Olive, Penarlâg, Mathew Morris o Bar Uno, Prifysgol Bangor, Joshua Hughes o Westy’r Quay, Deganwy, Sam Ricketts o Fwyty Signatures, Conwy, James Roberts o Westy Ty Gwyn, Betws y Coed a Ryan Philipps o Westy’r Castell, Conwy.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau