I gydnabod eu gwaith caled a’u hymroddiad i fyfyrwyr, cafodd darlithwyr o’r Coleg eu gwahodd i Dy’r Cyffredin yn ddiweddar.
Teithiodd aelodau o’r 28 sydd yn nhîm peirianneg Coleg y Cymoedd, sydd â phum campws yn Ne Cymru, i seremoni wobrwyo arbennig yn Llundain ar gyfer addysgwyr.
Cafodd y grŵp ei ddewis y mis diwethaf yn Dîm Addysg Bellach y Flwyddyn yn Nyfarniadau Addysg ‘Pearson Teaching Awards’ 2014. Ar hyn o bryd mae 152 o ddysgwyr llawn amser a 194 o rai rhan amser wedi ymrestru ar y rhaglenni peirianneg, sy’n ymestyn o gymwysterau lefel mynediad hyd at raddau sylfaen.
Disgrifiwyd y dyfarniad gan Gavin Davies, cyfarwyddwr cynorthwyol y cwricwlwm technoleg, fel ymdrech ysbrydoledig mewn cydweithrediad tîm.” Ychwanegodd: “Mae’n dilyn blwyddyn eithriadol o lwyddiannus yn eich adran, sydd ei hunan wedi ei seilio ar 30 mlynedd o weithio mewn partneriaeth â busnes i gyflenwi cwricwlwm ar gyfer anghenion penodol ein dysgwyr a’u cyflogwyr.”
Mae Dyfarniadau Addysgu Pearson yn ddathliad blynyddol o addysgu eithriadol, ac wedi ei sefydlu ym 1999 gan yr Arglwydd Puttnam. Cyflwynwyd y tlws ‘arian’ i dîm Coleg y Cymoedd gan Aelod Seneddol Caerffili, Wayne David, AS.
“