Pêl droed Merched Cymru yn cael hwb enfawr wrth lansio’r academi elît newydd

Mae Coleg y Cymoedd ar fin sefydlu Canolfan Rhagoriaeth Hyfforddiant Gwaith Rheilffyrdd ar gyfer prentisiaid yn Ne Ddwyrain Cymru ar ôl buddsoddiad o £3.1 miliwn yn ei adnodd gwaith rheilffyrdd.

Mae’r datblygiadau sy’n dod i rym wrth i’r Wythnos Brentisiaeth Genedlaethol (Dydd Llun 9fed o Fawrth – Dydd Gwener 13eg o Fawrth) ddathlu’r ystod o brentisiaethau sydd ar gael mewn gwahanol sectorau a thalent a sgiliau’r prentisiaid ar draws y DU.

Bydd buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn yr adnodd gwaith rheilffyrdd yng Ngholeg y Cymoedd yn cynnwys ystafelloedd dosbarth newydd a chyfleusterau gweithdai hyfforddiant i gwrdd ag anghenion hyfforddiant peirianneg gwaith rheilffyrdd gyda phwyslais arbennig ar drydaneiddio. Mae’r buddsoddiad yng Nghampws Nantgarw’r coleg a chwblheir y gwaith erbyn Medi 2015.

Bydd y ganolfan gwaith rheilffyrdd yn sefydlu’r coleg yn Ganolfan Rhagorioaeth ar gyfer Hyfforddiant Gwaith Rheilffyrdd, yn arwain at gynlluniau Llywodraeth Cymru i drydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd a’r cysylltiadau â Llundain erbyn 2018. Bydd hyn nid yn unig yn gwella gwasanaethau ar gyfer teithwyr yn fawr iawn ond hefyd bydd yn darparu cyfle i sefydlu gweithlu anferth yn Ne Cymru.

Yn ystod y flwyddyn academaidd hon yn unig, mae 40 o brentisiaid ac ymhlith y garfan gyfredol sy’n elwa o’r hyfforddiant dwys ar ôl misoedd o fod yn ddiwaith mae Jonathan Brown, 23 oed o Senghennydd. Mae Jonathan yn dilyn ôl troed ei dad a’i frawd sydd hefyd yn gweiothio yn y diwydiant.

Ar ôl dychwelyd o fyw yn Awstralia am 15 mis, cynghorwyd Jonathan i ymuno â dysgwyr ar y brentisiaeth gwaith rheilffyrdd, cwrs a fydd yn gweddu iddo oherwydd mae’n well ganddo ddysgu yn seiliedig ar sgiliau. Dywedodd Jonathan am ei amser ar y cwrs hyd yn hyn : “Ces y dull hwn o addysgu lawer mwy effeithiol nag amgylcheddau dysgu blaenorol gan ein bod yn cael ein dysgu gan diwtor sydd yn meddu ar lawer o brofiad yn y diwydiant.

“Mae cymhelliad cryfach mewn cwrs prentisiaeth i wneud yn dda oherwydd ein bod yn dysgu wrth wneud y gwaith a chael cyfle i fynd yn syth i swydd wedyn.”

Yn dilyn cyfnod cyntaf y buddsoddiad o £3miliwn mewn offer ac adnoddau newydd, dechreuodd y prentisiaethau gwaith rheilffyrdd ym mis Medi 2014, gan ddenu dysgwyr o bob rhan o Dde Cymru. Mae’r prentisiaid wedi bod yn gweithio ar replica o drac rheilffordd pwrpasol, gan ddarparu cipolwg uniongyrchol ar y diwydiant ac ar yr un pryd ennill cymwysterau cydnabyddedig.

Darperir yr hyfforddiant dwys ar y cyd rhwng Coleg y Cymoedd a chwmni McGinley Support Services, cwmni sy’n arbenigo mewn gwasanaeth recriwtio gwaith rheilffyrdd. Mae’r bartneriaeth gyda McGinley yn golygu bod dysgwyr fel Jonathan nid yn unig yn ennill sgiliau hanfodol mewn amgylchedd realistig ond yn cael gwaith yn syth gyda chwmni McGinley am flwyddyn o ddysgu dan gyfarwyddyd yn y diwydiant.

Dywedodd Wayne Chawner, tiwtor ar y cwrs prentisiaeth: “Mae’r brentisiaeth gwaith rheilffyrdd yn gyfle gwych i’r bobl ifanc hyn i weithio ar replica o drac go iawn gyda chydrannau go iawn mewn amgylchedd diogel.

“Mae’r cwrs hwn yn darparu profiad uniongyrchol ar gyfer y prentisiaid a chyfle i fynd ymhell yn y diwydiant gwaith rheilffyrdd. Bydd y dysgwyr hyn yn debyg o fod yn rhan o’r gweithlu mawr fydd ei angen gyda’r darpar waith ar reilffyrdd y Cymoedd a’r lein i Lundain.”

Erbyn hyn, mae 51,000 o bobl ar gynlluniau prentisiaeth yng Nghymru a phob un wedi dewis y llwybr galwedigaethol. Mae busnesau a chyflogwyr fel ei gilydd yn elwa o brentisiaethau oherwydd gall y cyflogai wella cynhyrchiant gan ei fod wedi’i hyfforddi o’r cychwyn cyntaf.

Mae Coleg y Cymoedd yn cynnal digwyddiad darparu gwybodaeth Dydd Mercher 11 Mawrth 2015 ar Gampws Nantgarw yn cychwyn am 12pm, ac yn arddangos llwybrau prentisiaethau a hyfforddiant i gyflogwyr. Bydd timoedd Prentisiaethau a ‘Hyfforddiant ar gyfer Cyflogwyr’ ar gael i drafod unrhyw anghenion hyfforddiant ar gyfer y dyfodol.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau