Pêl-droed Merched yng Ngholegau Cymru ar Gynnydd

Yn nhreialon Sgwad Pêl-droed Merched Colegau Cymru ddydd Gwener diwethaf, 16 Hydref, bu 180 o chwaraewyr uchelgeisiol yn gobeithio dilyn ôl troed talentau gorau’r flwyddyn ddiwethaf a aeth ymlaen i gael eu dewis ar gyfer Sgwad Hŷn Pêl-droed Cymru.

Mae pêl-droed merched yng ngholegau Cymru yn tyfu ar garlam, yn enwedig ar ôl cyflwyno’r fformat 7 bob ochr. Eleni, roedd treialon Colegau Cymru sy’n ffurfio rhan o ail Ŵyl Bêl-droed Colegau Cymru a gynhaliwyd ym Mharc Pen y Darren, wedi ehangu i gynnwys 14 o dimau o golegau ledled Cymru.

Tîm cryf o Goleg y Cymoedd enillodd yr Ŵyl, gan ennill y rownd derfynol hynod gystadleuol yn erbyn Coleg Merthyr Tudful a hynny ar giciau cosb.

Roedd yr Å´yl yn arddangos sgiliau arweinyddiaeth myfyrwyr a’u sgilau tîm ar y cae ac oddi arno. Chwaraeon Colegau Cymru a drefnodd yr Å´yl a myfyrwyr chwaraeon Coleg Merthyr Tudful a fu’n rheoli’r Å´yl ar y diwrnod, yn goruchwylio’r broses ymrestru, yn dyfarnu a chyflawni’r holl rolau gwirfoddoli.

Dywedodd Rob Baynham, Cydlynydd Colegau Chwaraeon Cymru,: Mae’n gyffrous iawn gweld twf chwaraeon ymhlith merched ifanc ac i weld cymaint o dimau coleg yn cymryd rhan yn yr Å´yl. Roedd yn llwyfan, hefyd, i ddangos gallu pobl ifanc i drefnu digwyddiadau chwaraeon a darparu cyfleoedd chwaraeon ar gyfer eu cymheiriaid. Chwarae, trefnu, arwain, cymryd rhan a chefnogi – roedd hyn i gyd yn amlwg yn yr Å´yl.”

Bydd y chwaraewyr gorau yn cael eu dewis ar gyfer tîm cenedlaethol merched Chwaraeon Colegau Cymru, gyda gwersylloedd hyfforddiant a gemau pellach drwy gydol y flwyddyn. Y llynedd, gwelwyd dau chwaraewr o Goleg y Cymoedd yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru dan 17 oed, Ers hynny, mae dwy o’r chwaraewyr, Chloe Lloyd a Ffion Price, wedi llwyddo ennill eu lle ar Sgwad Hŷn Cymru.

Dywedodd Ffion Price: “Roedd chwarae pêl-droed dros fy coleg ac i dîm cenedlaethol Colegau Chwaraeon Cymru yn lwyfan gwych i mi. Y llynedd ro’n i’n lwcus i gael fy newis ar gyfer Carfan Pêl-droed Merched Cymru dan 17 yn Lithwania, wedyn i’r Garfan dan 19, gan gystadlu yn rhagbrofion UEFA yn Nhwrci, ac eleni cefais fy newis ar gyfer carfan Cymru yn erbyn Croatia. Rwy’n cael gwefr allan o’r gêm, a medrwn i ddim bod yn hapusach i hyrwyddo pêl-droed merched yng Nghymru.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau