Mae pedwar pêl-droediwr talentog o Goleg y Cymoedd wedi’u dewis yn rhan o sgwadiau pêl-droed Colegau Cymru ac Ysgolion Cymru ar gyfer cystadleuaeth gyntaf y flwyddyn newydd yn erbyn Awstralia.
Mae’r chwaraewyr, sy’n astudio ar raglen BTEC Chwaraeon, yn rhan o’r Academi Bêl-droed yng Ngholeg y Cymoedd.
Bydd Evan Lloyd (17) o Bontypridd; Scott Lewis (16) o Benrhiwceibr, Morgan Grahame (16) o Gaerffili, sy’n chwarae dros dîm Cambrian a Clydach, yn chwarae dros Ysgolion Cymru Dan 18 ar faes Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Bydd Jay Woodford (18) o Lyn Rhedynog, yn cynrychioli Colegau Cymru Dan 19 tra bod Evan Lloyd wedi’i ddewis ar gyfer y ddau dîm.
Mae Jay Woodford, sydd hefyd yn cynrychioli Tref Caerfyrddin, wedi cael yr anrhydedd o fod yn gapten ar dîm Colegau Cymru. Wrth sôn am ei ddethol dywedodd Jay, Mae’n fraint enfawr cael fy newis ar gyfer y rôl hon”.
Dywedodd Phil Thomas, Tiwtor a Phennaeth Pêl-droed Dynion yng Ngholeg y Cymoedd, “Rwy’n falch iawn i’r dysgwyr. Maent yn chwaraewyr ymrwymedig, sy’n hyfforddi’n galed i gyflawni eu perfformiadau gorau ac maent wedi mynd i’r afael yn llwyr â rhaglen pêl-droed ac addysg rhagorol y coleg.
“Yn amlwg llongyfarchiadau mawr i Jay sydd wedi cael ei enwi’n gapten y tîm ar gyfer y gêm sydd ar y gweill; rydym yn falch iawn ohono. Rydym yn edmygu ei ymrwymiad a’i  aeddfedrwydd “.
Colegau Cymru v Awstralia Dydd Mercher 16 Ionawr
Ysgolion Cymru v Awstralia Dydd Iau, 17 Ionawr
Bydd y ddwy gêm yn cael eu chwarae yng Nghlwb Pêl-droed Met Caerdydd.
“