Pantomeim Theatrau Rhondda Cynon Taf eleni – Dick Whittington

Mae Coleg y Cymoedd wedi bod yn rhan o ddod ag ychydig o’r hud hwnnw i fywydau plant ifanc yn Rhondda Cynon Taf.

Am y chweched flwyddyn yn olynol, mae grŵp o ddysgwyr ar eu hail flwyddyn yn astudio Gradd Sylfaen mewn Creu Gwisgoedd ar gyfer y Sgrin a’r Llwyfan wedi cael eu dewis i dorri a chreu gwisgoedd ar gyfer pantomeim Theatrau Rhondda Cynon Taf eleni – Dick Whittington.

Mae’r dysgwyr lefel 5 o gampws Nantgarw wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r cynllunydd gwisgoedd Dr. Lloyd Llewellyn-Jones i wireddu ei gynlluniau ar gyfer yr holl gynhyrchiad. Mae dysgwyr wedi bod yn creu gwisgoedd ar gyfer y sêr Di Botcher (Anti Brenda-Stella), Frank Vickery (Dramodydd o Gymru) a Johnny Tudor (Gavin & Stacey).

Mae’r staff, Emma Embling a Caroline Thomas a’r dysgwyr wedi cynnal sesiynau ffitio gyda’r perfformwyr i drafod gofynion eu gwisgoedd.

Mae’r cwrs arbenigol yn y coleg yn canolbwyntio ar sgiliau torri a chreu gwisgoedd, sy’n darparu’r sgiliau i ddysgwyr allu trosi eu syniadau creadigol yn wisgoedd o safon proffesiynol.

Dywedodd Chloe Gauci ‘Rwyf wir wedi mwynhau’r prosiect hwn ac rwyf yn methu ag aros i weld fy ngwisgoedd yn cael eu defnyddio ar lwyfan. Bu’n her creu gwisgoedd ar gyfer y cymeriadau a oedd yn dal sylw ond a oedd hefyd yn ddigon cryf ar gyfer y gweithgareddau yr ymgymerir â nhw yn ystod y pantomeim. Mae angen iddynt hefyd bara am ddau fis o wisgo a golchi parhaus. Dewisais wneud gwisg yr hen wraig Sarah ac mae’n rhaid imi ddiolch i Frank Vickery am ei amynedd – rwy’n meddwl y bydd y gwisgoedd yn edrych yn anhygoel ar lwyfan.

Dywedodd tiwtor y Cwrs, Emma Embling, “Mae’r cydweithio rhwng y cwrs a Rhondda Cynon Taf wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd. Rhoddir profiad gwych i ddysgwyr o’r diwydiant y maent am ymuno ag ef ar ôl cwblhau eu gradd. Mae’r dysgwyr yn gweithio’n galed iawn, o’r dechrau i’r diwedd, i greu’r gwisgoedd anhygoel yma. Ar ddiwedd y broses gallant ychwanegu’r cynhyrchiad hwn at eu CV a’u portffolio. Mae gweithio ar y mathau hyn o gynyrchiadau yn rhoi mantais i’n dysgwyr o gymharu â graddedigion eraill wrth ddechrau ymgeisio am waith.

Dywedodd Angela Gould, Rheolwr y Cwmni, CBS Rhondda Cynon Taf, “Mae’r dysgwyr gwisg yng Ngholeg y Cymoedd yn broffesiynol eu hymagwedd at bopeth a wnânt i ni. Mae ein perthynas â’r staff a’r dysgwyr ar y cwrs gwisgoedd wedi tyfu dros y blynyddoedd ac wedi datblygu’n rhywbeth go arbennig. Mae’r dysgwyr yn glod i’w cwrs a’r proffesiwn.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau