Lansiwyd academi rygbi newydd mewn coleg yn Ne Cymru i roi’r cyfle i ddarpar chwaraewyr ymuno â thîm Uwch Gynghrair (‘Super League’).
Mae’r Salford Red Devils – clwb proffesiynol rygbi’r gynghrair yn ardal Manceinion, wedi partneru â Rygbi’r Gynghrair Cymru a Choleg y Cymoedd i greu llwybr talent a rhaglen datblygu hyfforddwyr ar gyfer chwaraewyr Cymru.
Mae gan y clwb hanes hir o recriwtio chwaraewyr o Gymru sy’n dyddio’n ôl i’r 1890au ac yn cynnwys 147 o chwaraewyr, gan gynnwys sêr rygbi’r gynghrair fel Rhys Williams. Bydd yr academi newydd yn ceisio parhau â’r etifeddiaeth enwog hon o dalent Cymru yn rhengoedd Salford, wrth ddarparu llwybr i chwaraewyr talentog i ymuno â chlwb proffesiynol.
O dan y brand, Academi Datblygu Genedlaethol Rygbi’r Gynghrair Cymru, mewn partneriaeth â’r Salford Red Devils, bydd y fenter yn cael ei chynnal yng nghampws Ystrad Mynach Coleg y Cymoedd. Dyma’r unig Academi Ddatblygu RFL achrededig yng Nghymru.
Bydd chwaraewyr yn yr academi yn derbyn hyfforddiant elit gan y Salford Red Devils, Rygbi’r Gynghrair Cymru a thîm hyfforddwyr arbenigol Coleg y Cymoedd, wrth astudio Diploma Lefel 3 BTEC mewn chwaraeon. Gan rannu eu hamser rhwng hyfforddiant ymarferol ac astudiaethau academaidd, byddant yn dysgu am amrywiaeth o bynciau gan gynnwys maeth chwaraeon, anafiadau chwaraeon, profi ffitrwydd, dyfarnu gemau, anatomeg a ffisioleg.
Bydd Hyfforddwr y Salford Red Devils yn mynychu unwaith y mis i ddarparu hyfforddiant, cyngor a safbwyntiau proffesiynol. Hefyd, byddant yn gweithredu fel sgowtiaid i asesu sgiliau chwaraewyr, gyda’r bwriad o roi cyfle i’r rhai sy’n creu argraff gael chwarae gyda’r clwb yn yr Uwch Gynghrair.
Dywedodd Ian Blease, cyfarwyddwr rygbi a gweithrediadau y Salford Red Devils: “Rydym ni’n gwybod bod Cymru’n gartref i dalent rygbi ​​eithriadol ac rydym ni am feithrin ac annog hyn. Mae’r dull o ddatblygu chwaraewyr ifanc yng Nghymru, ac yng Ngholeg y Cymoedd, hefyd yn cyd-fynd yn berffaith â’r ethos a’r diwylliant yn Salford, sy’n rhoi cymaint o ffocws ar gymeriad personol a datblygiad addysgol â gallu corfforol a sgiliau penodol yn ymwneud â rygbi’r gynghrair.
“Bydd ein hacademi newydd yn rhoi llwybr posibl i’r Uwch Gynghrair i’r chwaraewyr ifanc gorau o Gymru, gyda chyfle i symud ymlaen drwy raglen llwybr chwaraewyr y Salford Red Devils.â€
Yn ogystal â darparu hyfforddiant i chwaraewyr, bydd y bartneriaeth newydd yn gweld y clwb hefyd yn darparu cefnogaeth a datblygiad proffesiynol i hyfforddwyr.
Dywedodd Mark Jones, Pennaeth rygbi’r gynghrair yng Ngholeg y Cymoedd: “Mae Coleg Cymoedd yn edrych ymlaen yn fawr at fod yn bartner swyddogol i’r Salford Red Devils a Rygbi’r Gynghrair Cymru ar y fenter newydd hon. Mae Salford wedi ymrwymo i ddatblygu talent rygbi newydd ac mae’r llwybrau datblygu y maent yn parhau i fuddsoddi ynddynt wedi creu argraff arnom.
“Gyda hanes y Salford Red Devils o arwyddo chwaraewyr o Gymru, mae’r bartneriaeth yn ffit naturiol i Goleg y Cymoedd ac Academi Datblygu Genedlaethol Rygbi’r Gynghrair Cymru a leolir yn Ystrad Mynach. Ni allwn aros i weld pa dalent a ddaw o’r academi yn y dyfodol! â€
Coleg y Cymoedd yw’r unig goleg yng Nghymru i gynnig rhaglen rygbi’r gynghrair llawn amser ochr yn ochr ag addysg a bydd gan chwaraewyr o Gymru lwybr uniongyrchol yn awr i gyflawni eu breuddwydion o chwarae i’r Uwch Gynghrair. Daw’r newyddion wrth i academi rygbi Coleg y Cymoedd ennill achrediad deuol academi rygbi’r gynghrair y mis hwn gan yr RFL i gydnabod ei ddarpariaethau ar gyfer rygbi dynion a menywod. Mae gan y coleg raglen rygbi hynod lwyddiannus i ddynion eisoes ac mae wrthi’n sefydlu academi i fenywod.
Ychwanegodd Gareth Kear, Prif Swyddog Gweithredol Rygbi’r Gynghrair Cymru: “Mae’r bartneriaeth rhwng Rygbi’r Gynghrair Cymru, y Salford Red Devils a Choleg y Cymoedd yn berffaith gan fod pob un ohonom yn rhannu’r un gwerthoedd o ran cynhwysiant, amrywiaeth a chydraddoldeb. Gyda’n gilydd byddwn yn gweithio i adnabod a datblygu ffynhonnell gyfoethog o dalent rygbi’r gynghrair sydd wedi bodoli erioed yng Nghymru, yn ogystal â darparu prosiectau allgymorth mewn ardaloedd difreintiedig i wneud ein camp yn hygyrch i bawb.
“Rydym ni’n falch ein bod yn cynnal yr academi yng Ngholeg y Cymoedd sydd wedi profi ei hun i fod yn enw blaenllaw wrth hyrwyddo rygbi Cymru.â€
I gael rhagor o wybodaeth am yr academi, ewch i https://www.cymoedd.ac.uk/cy/course/35631/level-3-in-sport-rugby-league
“