Darparwr Hyfforddaint:
Creative Difference
Hyd y cwrs:
3 diwrnod
Corff Dyfarnu:
CSSC
Cyflenwi:
ar-lein dan arweiniad tiwtor
Dechreuwch ar eich taith ym myd “Lean Six Sigma” gyda’r cwrs Gwregys “Yellow Belt” hwn sydd wedi’i ariannu’n llawn, ac wedi’i achredu gan y Cyngor Ardystio “Sigma Six (CSSC)”. Byddwch yn dysgu egwyddorion craidd gwella prosesau, datrys problemau a lleihau gwastraff—sylfaen delfrydol i weithwyr proffesiynol sy’n awyddus i wneud gwahaniaeth yn eu gweithle. Mae’r cwrs lefel mynediad hwn ar gyfer oedolion cyflogedig yng Nghymru sydd eisiau meithrin eu hyder mewn gwella prosesau gan ddefnyddio “Lean Six Sigma”. Mae’n berffaith ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym mhob sector—gan gynnwys rhai ym maes gofal iechyd, gweithgynhyrchu, gwasanaethau cyhoeddus, logisteg a manwerthu—sy’n newydd i “Lean Six Sigma” neu sydd eisiau cefnogi prosiectau gwella fel rhan o dîm ehangach.
+ un o’r canlynol
Dim
Arholiad ar-lein
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, byddwch yn ennill Ardystiad “Lean Six Sigma Yellow Belt”, wedi’i achredu gan y Cyngor Ardystio “Six Sigma (CSSC)” — cymhwyster a gydnabyddir yn fyd-eang sy’n profi eich dealltwriaeth o fethodolegau “Lean Six Sigma”. Mae’r ardystiad hwn yn gosod y sylfaen ar gyfer astudiaeth bellach ar lefelau Green Belt neu Black Belt ac yn galluogi’r dysgwyr i wneud cyfranogiad gweithredol o fewn timau gwella.
Caiff dyddiadau’r cwrs eu trafod yn uniongyrchol gyda’r darparwr hyfforddiant ar ôl cwblhau’r cais am gyllid yn llwyddiannus. Efallai na fydd unrhyw ddyddiadau cwrs a drefnwyd gyda’r darparwr hyfforddiant cyn i chi sicrhau cyllid, yn cael eu hanrhydeddu – Dim ond ar ôl i’r cyllid gael ei gymeradwyo y bydd dyddiadau’r cwrs yn cael eu cadarnhau.
Darparwr Hyfforddaint:
Creative Difference
Hyd y cwrs:
5 Gweithdy sydd fel arfer yn cael eu cyflenwi ddwy waith y mis.
Corff Dyfarnu:
CSSC
Cyflenwi:
ar-lein dan arweiniad tiwtor
Datblygwch eich sgiliau gwella prosesau gyda’r cwrs “Lean Six Sigma Green Belt” hwn, sydd wedi’i ariannu’n llawn ac sy’n cael ei gydnabod gan y diwydiant. Wedi’i achredu gan y Cyngor Ardystio Six Sigma (CSSC), mae’r cwrs hwn yn eich paratoi i arwain prosiectau gwella sy’n seiliedig ar ddata sy’n darparu canlyniadau mesuradwy a newid cynaliadwy.
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer oedolion cyflogedig yng Nghymru sydd eisiau datblygu’r gallu i arwain neu gefnogi prosiectau gwella o fewn eu sefydliad. Mae’n ddelfrydol ar gyfer gweithwyr proffesiynol, mewn sectorau fel gweithgynhyrchu, gofal iechyd, gwasanaethau cyhoeddus, logisteg a manwerthu, sy’n awyddus i wella prosesau, lleihau gwastraff a gwella perfformiad gan ddefnyddio methodolegau “Lean Six Sigma” strwythuredig.
Bydd y cwrs “Green Belt” hwn yn dyfnhau eich dealltwriaeth o “Lean Six Sigma” trwy bum cyfnod DMAIC (Diffinio, Mesur, Dadansoddi, Gwella, Rheoli):
Cyfnod Rheoli: Datblygu a gweithredu cynlluniau rheoli, gweithdrefnau gweithredu safonol, ac adnoddau monitro fel siartiau rheoli. Byddwch hefyd yn canolbwyntio ar gynnal gwelliannau ac ymgorffori gwelliant parhaus mewn gweithrediadau dyddiol.
+ un o’r canlynol
Yn ddelfrydol, bydd cyfranogwyr wedi cwblhau cwrs “Lean Six Sigma Yellow Belt” cyn cofrestru. Mae hyn yn sicrhau dealltwriaeth sylfaenol gadarn o gysyniadau “Lean Six Sigma” ac yn caniatáu dysgu mwy datblygedig yn ystod y rhaglen “Green Belt”.
Arholiad ar-lein
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, byddwch yn ennill Ardystiad “Lean Six Sigma Green Belt”, wedi’i achredu gan y Cyngor Ardystio “Six Sigma” (CSSC) — cymhwyster a gydnabyddir yn fyd-eang sy’n profi eich dealltwriaeth o fethodolegau “Lean Six Sigma”. Gall hyn gefnogi datblygiad gyrfa i swyddi sy’n canolbwyntio ar welliant parhaus, gweithrediadau a rheoli ansawdd.
Caiff dyddiadau’r cwrs eu trafod yn uniongyrchol gyda’r darparwr hyfforddiant ar ôl cwblhau’r cais am gyllid yn llwyddiannus. Efallai na fydd unrhyw ddyddiadau cwrs a drefnwyd gyda’r darparwr hyfforddiant cyn i chi sicrhau cyllid, yn cael eu hanrhydeddu – Dim ond ar ôl i’r cyllid gael ei gymeradwyo y bydd dyddiadau’r cwrs yn cael eu cadarnhau.
Darparwr Hyfforddaint:
Creative Difference
Hyd y cwrs:
10 Gweithdy + Gwaith Prosiect. Cynhelir dau weithdy bob mis fel arfer.
Corff Dyfarnu:
CSSC
Cyflenwi:
ar-lein dan arweiniad tiwtor
Dyrchafwch eich arbenigedd Lean Six Sigma i’r lefel nesaf gyda’r hyfforddiant “Gwregys Du/Black Belt” uwch hwn, sydd wedi’i ariannu’n llawn. Wedi’i achredu gan y Cyngor Ardystio “Six Sigma” (CSSC), mae’r cwrs hwn yn rhoi’r sgiliau strategol, dadansoddol ac arweinyddiaeth sydd eu hangen ar weithwyr proffesiynol profiadol i arwain mentrau gwella cymhleth ar draws unrhyw ddiwydiant. Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer oedolion cyflogedig yng Nghymru sydd mewn rôl lle gallan nhw arwain prosiectau gwella uwch ar draws y sefydliad. Mae’n ddelfrydol ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn sectorau fel gweithgynhyrchu, gofal iechyd, logisteg, manwerthu a gwasanaethau cyhoeddus sy’n gyfrifol am ysgogi newid a gwelliannau perfformiad.
+ un o’r canlynol
Dylai cyfranogwyr fod mewn sefyllfa i arwain a chyflawni prosiect gwelliant sylweddol o fewn eu sefydliad. ‘Does dim angen ardystiad “Lean Six Sigma” ymlaen llaw, ond mae’n hanfodol cael dealltwriaeth gref o brosesau busnes a pharodrwydd i ysgwyddo cyfrifoldeb strategol.
Bydd yr asesiad yn cynnwys cyflwyniad llwyddiannus ar gyflawni prosiect ac arholiad ar-lein.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, byddwch yn ennill Ardystiad “Lean Six Sigma Black Belt”, wedi’i achredu gan y Cyngor Ardystio “Council for Six Sigma Certification (CSSC)” — cymhwyster a gydnabyddir yn fyd-eang sy’n profi eich dealltwriaeth o fethodolegau “Lean Six Sigma”. Gall yr ardystiad hwn arwain at rolau uwch mewn rheoli ansawdd, gwella prosesau, gweithrediadau a strategaeth fusnes ar draws amrediad o ddiwydiannau.
Caiff dyddiadau’r cwrs eu trafod yn uniongyrchol gyda’r darparwr hyfforddiant ar ôl cwblhau’r cais am gyllid yn llwyddiannus. Efallai na fydd unrhyw ddyddiadau cwrs a drefnwyd gyda’r darparwr hyfforddiant cyn i chi sicrhau cyllid, yn cael eu hanrhydeddu – Dim ond ar ôl i’r cyllid gael ei gymeradwyo y bydd dyddiadau’r cwrs yn cael eu cadarnhau.
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR





