Mae ein ceisiadau am gyllid PLA Tata Steel UK wedi cau erbyn hyn oherwydd bod y cyllid hwn wedi cyrraedd ei eithaf. Cofiwch fonitro ein gwefan am y newyddion diweddaraf.
Profir cymhwyster ar adeg gwneud y cais. Mae’r unigolion canlynol yn gymwys ar gyfer y rhaglen.
Rhaid i unigolion:
Yn ogystal, rhaid i unigolion ddiwallu o leiaf un o’r meini prawf canlynol:
Os bydd eich ffurflen gais gychwynnol (Cynllun Hyfforddiant) yn llwyddiannus, byddwn yn anfon e-bost atoch i ofyn am eich Dogfennau Adnabod ategol. Ar gyfer eich Dogfennau Adnabod, bydd angen i chi ddarparu copïau clir heb eu golygu o’r dogfennau a restrir isod (lleiafswm o un ddogfen fesul grŵp) i gadarnhau’r wybodaeth ar eich ffurflen gais. Coladwch y wybodaeth hon wrth gyflwyno’ch cais ac wrth baratoi at dderbyn e-bost gennym ni – Os ydych yn cael trafferth i gael un o’r dogfennau cymeradwy, siaradwch gydag aelod o’r tîm i drafod y dewisiadau posibl.
Mae cadwyn gyflenwi Ehangach Cymru (Wider Welsh) yn cyfeirio at unigolion a chwmnïau sydd mewn partneriaeth â Tata Steel UK. Gall cydrannau o’r gadwyn gyflenwi fod o blith meysydd megis cynhyrchwyr, gwerthwyr, warysau, cludiant, canolfannau dosbarthu a mân-werthwyr.
Tystiolaeth o enw llawn ac oed
Bydd angen i chi ddarparu un o’r canlynol:
Tystiolaeth o fod yn preswylio’n gyfreithiol yng Nghymru
Bydd angen i chi ddarparu un o’r canlynol:
AC, ar gyfer unrhyw un heb fod yn ddinesydd Prydain neu Iwerddon, un ddogfen arall a fydd yn dangos:
Tystiolaeth o gyflogaeth
Os ydych yn gyflogedig gan Tata Steel UK, bydd angen i chi ddarparu un o’r canlynol:
Os ydych yn cael eich cyflogi gan gadwyn gyflenwi Tata Steel UK, bydd angen i chi ddarparu un o’r canlynol:
Sylwer mai dim ond 90 diwrnod sydd gennych rhwng cyflwyno’ch Cynllun Hyfforddi a chwblhau eich cais am gyllid a chychwyn eich dewis gwrs. Os byddwch yn hwyr yn cyflwyno’ch cais neu ddim yn gallu cychwyn eich cwrs o fewn y ffrâm amser hwn, efallai na fyddwch yn gallu symud ymlaen gyda’ch cais cyfredol a bydd angen cychwyn cais o’r newydd am gyllid.
Yn flaenorol, mae cyllid TATA Steel wedi bod ar gael ar gyfer y canlynol:
Gyda’n rhestr helaeth o gyrsiau ar gael drwy’r cyllido, rydyn ni’n hyderus y byddwch yn dod o hyd i’ch cwrs perffaith.
Cychwynnwch eich cais am gyllid drwy gwblhau a chyflwyno eich Cynllun Hyfforddi ar-lein yma-here.
Ar ôl i ni adolygu’ch Cynllun Hyfforddi, bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi drwy e-bost yn gofyn am ddogfennau ychwanegol er mwyn cwblhau eich cais am gyllid.
Sicrhewch eich bod yn cwblhau a dychwelyd dogfennau hyn cyn gynted â phosibl i osgoi cael eich siomi. Sylwer, ni fydd cyflwyniadau anghymwys yn derbyn ymateb ar e-bost.
Ar ôl i chi ddychwelyd eich dogfennau ychwanegol a bod eich cyllid wedi’i gymeradwyo, byddwn yn gweithio gyda chi i drefnu’r dyddiad cychwyn sy’n eich siwtio orau.
Sylwer, os cynhelir eich cwrs drwy bartner hyfforddi, nhw fydd yn cwblhau’r cam hwn gyda chi. Gellir cychwyn unrhyw gwrs hunan-arweiniol yn syth.
Os na allwch ddod o hyd i gwrs o’ch dewis, neu eich bod yn ansicr os ydych yn gymwys am gyllid ai peidio, cysylltwch ag aelod o’r tîm drwy ffonio 01443 663128 neu anfon e-bost at: bis@cymoedd.ac.uk
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR




