Mae peirianwyr Network Rail wrthi’n paratoi ar gyfer trydaneiddio Twnnel Hafren gan ddefnyddio’r adnodd hyfforddi mwyaf blaengar yn Ne Cymru – yr un yng Ngholeg y Cymoedd.
Bydd Twnnel Hafren, sy’n 130 mlwydd oed, yn cael ei gau am chwe wythnos o Fedi’r 12fed i’w baratoi ar gyfer trydaneiddio’r lein, carreg filltir allweddol yn y prosiect o gyflwyno trenau trydan ar gyfer teithwyr prif lein De Cymru, a rhan o Gynllun Network Rail i Uwchraddio’r Rheilffyrdd.
Mae’r adnodd hyfforddi ar gampws Nantgarw Coleg y Cymoedd, sydd wedi’i gydariannu gan y Coleg a Llywodraeth Cymru, yn cynnwys brasfodel maint llawn o’r offer trafod lein uwchben fydd ar waith i gyflenwi pŵer i’r trenau trydan newydd sydd i deithio drwy’r twnnel.
Mae Network Rail yn gweithio mewn partneriaeth â chwmnïau ABC ac AMCO gyda chefnogaeth McGinley Support Services, i ddarparu hyfforddiant fydd yn caniatáu i beirianwyr adeiladu, datod a chynnal y gwifrau pŵer a’r offer arbenigol sy’n unigryw i brosiect trydaneiddio Twnnel Hafren.
Dyma’r unig le yn y DU i gynnig hyfforddiant ar ddefnyddio’r offer arbennig hwn, offer sy’n cael ei alw’n Rheilen Anhyblyg Dargludo Trydan Uwchben, fydd yn helpu i bweru’r trenau drwy’r twnnel cul.
Yn ystod y chwe wythnos bydd y twnnel ar gau, bydd 200 o ‘weithlu oren’ Network Rail yn gweithio nos a dydd i osod dros wyth milltir o reilen dargludo trydan yno.
Yn ôl Dan Tipper, cyfarwyddwr rhanbarthol Network Rail Cymru: “Mae hon yn enghraifft wych o gydweithio gyda’n darparwyr, sydd mor bwysig i lwyddiant cyrraedd y garreg filltir hon o’r prosiect i drydaneiddio’r brif lein i Dde Cymru. Mae’r adnodd hyfforddi hwn yn caniatáu i’n peirianwyr hyfforddi mewn amgylchedd diogel, gan ennill cymwysterau newydd a darparu eu hunain ar gyfer gwaith unigryw byddan nhw’n ei gyflawni’r hydref hwn i baratoi Twnnel Hafren ar gyfer ei drydaneiddio, gan ddarparu gwasanaethau cyflymach, gwyrddach a thawelach i’r nifer cynyddol o deithwyr sy’n defnyddio’r rheilffyrdd.â€
Meddai Julie James, Y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth: “Mae Coleg y Cymoedd yn darparu hyfforddiant o’r radd flaenaf mewn adnoddau heb eu hail, gan sicrhau bydd gweithlu â sgiliau ar gael i ddarparu’r gwelliannau mawr sydd ar waith yn yr isadeiledd rheilffyrdd yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf. Pan agorodd yr adnoddau yn Nantgarw ym mis Medi’r llynedd, roedden ni’n gwybod byddai’n buddsoddiad £1.54 miliwn yn cael ei ddefnyddio yn y modd gorau. Bydd Network Rail, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn gwario dros £1 biliwn yn moderneiddio’r system rheilffyrdd yng Nghymru. Mae’r ffaith ein bod yn gallu cefnogi Network Rail fel hyn, wrth iddyn nhw symud i gyfnod newydd, yn rhywbeth y gallwn ni ymfalchïo ynddo.â€
Dywed Judith Evans, Pennaeth of Coleg y Cymoedd: “Gallai’r Coleg ehangu ar sail rhaglen trydaneiddio’r rheilffyrdd. Mae gennym bedwar campws yn Rhondda Cynon Taf a Chaerffili ac y mae’r Ganolfan Gwaith Rheilffyrdd ar gampws Nantgarw yn hawdd i’w chyrraedd oddi ar yr M4. Rwyf eisoes wedi cychwyn trafodaeth o fewn y coleg i weld a ddylen ni fod yn ystyried ehangu o fewn y flwyddyn neu ddwy nesaf ai peidio. Os bydd y twf yn parhau ar y raddfa bresennol, rwy’n rhagweld bydd angen i ni ehangu yn y dyfodol.â€
“
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR