Mae tair o ddysgwyr ar raglen gyswllt ysgolion Coleg y Cymoedd wedi ennill gwobrau mewn cystadleuaeth genedlaethol.
Cynhaliwyd rownd derfynol yr AHT (Cymdeithas y Trinwyr Gwallt a Therapyddion) yn nhre Blackpool a dyfarnwyd dwy o ddysgwyr rhaglen gyswllt ysgolion Coleg y Cymoedd ymhlith y pedwar gorau yn y D.U.
Dyfarnwyd Charlotte Stephens ac Emily Whitehead o Ysgol Uwchradd Bedwas, sydd ar raglen gyswllt ysgolion Coleg y Cymoedd yn ail a phedwerydd yn y gystadleuaeth.
Roedd cael eu dyfarnu’n gyntaf yng ngornest derfynol rhanbarth Cymru ar gampws Nantgarw Coleg y Cymoedd yn golygu bod tair o drinwyr gwallt talentog y Coleg yn gymwys i gynrychioli Cymru yn y ffeinal fawr yn Blackpool yr wythnos hon.
Yng nghystadlaethau rhanbarthol yr AHT enillodd dysgwyr o ysgolion lleol y tri lle cyntaf yn y categori ‘School Link Evening Style with Ornamentation’. Daeth Courtney Evans o Ysgol Uwchradd St Martins yn gyntaf a Charlotte yn dod yn ail ac Emily yn drydydd. Mae’r tair hefyd yn astudio yng Ngholeg y Cymoedd fel rhan o’r rhaglen Gyswllt Ysgolion.
Dywedodd Charlotte Stephens, 15 oed o Fedwas: “Roedd yn wych i gymryd rhan yn y gystadleuaeth; roedd y paratoi ar gyfer y gystadleuaeth yn golygu llawer o waith caled ond roedd yn werth ei wneud oherwydd y profiad a gawson ni. Ron i wedi synnu mod i wedi cyrraedd y rowndiau terfynol rhanbarthol ond roedd cael mynd i’r ffeinal genedlaethol a dod yn ail yn rhyfeddol.â€
Dywedodd Martine Roberts y tiwtor sy’n addysgu ar y rhaglen gyswllt ysgolion yng Ngholeg y Cymedd: “Llwyddodd pob dysgwr i arddangos sgiliau o safon uchel yn y gystadlaethau ac ar ran y coleg, rydyn ni gyd yn hynod falch o’r merched. Cafodd y dysgwyr eu canmol ar ansawdd eu gwaith ac maen nhw’n glod i’r ysgolion a’r coleg.â€
Dywedodd Martin Jones, Cydlynydd 14-19: “Drwy gystadlu yn y cystadlaethau rhanbarthol mae’r dysgwyr yn ennill profiad gwerthfawr a fydd yn fuddiol iddyn nhw yn y dyfodol. Mae’r tair wedi gwneud yn dda iawn ac mae ennill fel hyn yn dangos pa mor galed maen nhw wedi gweithio.â€
Mae myfyrwyr trin gwallt Coleg y Cymoedd yn gweithio mewn salonau o safon y diwydiant lle maen nw’n datblygu sgiliau gydag amrywiaeth o gleientiaid. Maen nhw hefyd yn cael cyfle i gael profiad gwaith, cystadlu ac ymwel â digwyddiadau trin gwallt cenedlaethol.