Pencampwr y Byd Hollie Arnold MBE yn ysbrydoli dysgwyr y Cymoedd

Cynhaliwyd Seremoni Wobrwyo Flynyddol Coleg y Cymoedd yn Sinema Showcase ddydd Llun 18 Medi 2017.

Croesawodd y Pennaeth Judith Evans y gynulleidfa, gan nodi bod seremoni Wobrwyo Coleg y Cymoedd yn ddyddiad pwysig yn nyddiadur y Coleg ac yn gyfle i’r Coleg ddathlu llwyddiant ei ddysgwyr.

Gyda thua 10,000 o ddysgwyr, llongyfarchodd y Pennaeth y dysgwyr a enwebwyd gan eu tiwtoriaid am eu cyflawniadau a rhoes ddiolch hefyd i’r teulu a ffrindiau sydd wedi eu helpu.

Cadarnhaodd Cadeirydd y Gorfforaeth Coleg y Cymoedd, Mr Nigel Bayford, eiriau’r Pennaeth gan ddatgan y boddhad y mae ef a’i gyd-lywodraethwyr yn ei gael o fod yn rhan o daith ddysgu ei holl ddysgwyr. Manteisiodd ar y cyfle hefyd i ddiolch i’r staff am y gefnogaeth maent yn ei gynnig i’r dysgwyr – yn mynd y ‘filltir ychwanegol’ honno.

Aelodau’r Uwch Dîm Arwain a’r Swyddog Iaith Gymraeg Lois Roberts, a gyflwynodd yr enillwyr o ystod eang o feysydd pwnc; gyda gwobr ychwanegol a gyflwynwyd i’r dysgwr a oedd wedi cyfrannu’n sylweddol at yr Iaith Gymraeg drwy gydol y flwyddyn.

Cyflwynwyd y gwobrau gan Hollie Arnold MBE a chynrychiolwyr o amrywiaeth o sefydliadau a oedd wedi noddi’r Gwobrau.

Roedd y Coleg wrth ei bodd yn croesawu Graeme Morgan, Meistr Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, a gyflwynodd wobr i Megan Howells, dysgwr Safon Uwch. Enillodd Megan raddau A * yn y Gyfraith, y Saesneg a Hanes ac mae wedi sicrhau lle yng Ngholeg y Frenhines, Rhydychen i astudio’r Gyfraith.

Cyflwynwyd dwy Wobr Gyffredinol y Coleg, un  i Megan Evans a dderbyniodd y

Wobr Cyflawniad Eithriadol. Astudiodd Megan y cwrs  BTEC Gwasanaethau Cyhoeddus, gan ennill gradd D* ym mhob modiwl. Mae hi wedi cofrestru ar y radd Gwyddoniaeth yr Heddlu ym Mhrifysgol De Cymru ac mae hefyd yn hyfforddi i fod yn Gwnstabl Arbennig.

Hefyd, derbyniodd Siobhan Mullan Wobr Gyffredinol ar gyfer Goresgyn Rhwystrau. Yn ystod ei chwrs bu’n brwydro yn erbyn salwch a chwblhaodd ei chwrs gyda theilyngdod. Er gwaethaf ei salwch teimlai staff ei bod hi wedi bod yn fodel rôl cadarnhaol a chefnogol i aelodau eraill yn y grŵp.

Wrth annerch y gynulleidfa, rhoes Hollie Arnold MBE ddiolch i’r Coleg am ei gwahodd i siarad am ei thaith yn y byd athletau; gan rannu rhai o’r ‘uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau’. Hefyd, atebodd gwestiynau gan y gynulleidfa, gan bwysleisio pwysigrwydd cefnogaeth ffrindiau a theulu.

Chwaraeodd Rhiann Griffiths a Faith Jones, ddysgwyr o’r adran Celfyddydau Perfformio rôl allweddol yn y seremoni; gyda dau berfformiad lleisiol ardderchog.

Wrth gloi’r noson rhoes y Pennaeth ddiolch i’r dysgwyr a’r gwesteion a phawb oedd yn gysylltiedig â’r noson, yn enwedig y noddwyr a helpodd i ariannu’r digwyddiad.

Dymunodd bob lwc i’r dysgwyr yn y dyfodol, y rhai a fydd yn parhau â’u hastudiaethau yng Ngholeg y Cymoedd, a’r rhai a fydd yn symud ymlaen i brifysgol neu gyflogaeth .

Diolch yn fawr i’r noddwyr – Agored Cymru, Brecon Gate Projects Ltd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, EE, Environtec, Kier, Mott MacDonald a Tesco.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau