Pennaeth Cynorthwyol y Coleg yn sicrhau rôl hyfforddi i’r tîm pêl-droed cenedlaethol

Mae pennaeth cynorthwyol yng Ngholeg y Cymoedd wedi cael ei recriwtio gan dîm pêl-droed lled-broffesiynol Cymru i ffurfio rhan o’i dîm hyfforddi cryf.

Mae Neil Smothers, Pennaeth Cynorthwyol Addysgu a Dysgu’r coleg, wedi’i ddewis i fod yn rhan o dîm hyfforddi Cymru C ar gyfer eu gêm nesaf yn erbyn Lloegr C ar 30 Mawrth.

Mae carfan Cymru C yn dîm pêl-droed cenedlaethol sy’n cynrychioli Cymru y tu allan i’r gynghrair, sy’n cynnwys chwaraewyr sy’n cystadlu ar lefelau uchaf pêl-droed Cymru.

Bydd Neil, sy’n meddu ar Drwydded Broffesiynol UEFA – un o gymwysterau uchaf hyfforddi pêl-droed rhyngwladol – yn ymuno â Christian Edwards o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, a enillodd uwch gap dros Gymru yn ystod ei yrfa bêl-droed, a Mark Jones, rheolwr presennol y tîm, i greu tîm hyfforddi Cymru C cyn y gêm nesaf.

Bydd y tri hyfforddwr dawnus yn helpu i baratoi’r chwaraewyr ar gyfer y gêm, gan ddatblygu eu sgiliau a thrafod strategaeth.

Fel cyn-reolwr Clwb Pêl-droed Tref Caerfyrddin, bydd yn dod â blynyddoedd o brofiad gydag ef o gystadlu yn Uwch Gynghrair JD Cymru – cynghrair pêl-droed cenedlaethol Cymru. Ochr yn ochr â’i gysylltiad uniongyrchol â phêl-droed, mae gan Neil hefyd brofiad eang o addysgu chwaraeon, ar ôl bod yn Bennaeth yr Ysgol Chwaraeon, Teithio a Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngholeg y Cymoedd yn ogystal ag yn ddarlithydd Chwaraeon yng ngholeg Ystrad Mynach cyn hynny.

Bydd rhan Neil yng ngêm Cymru C yn rhoi profiad ymarferol pellach iddo o hyfforddi tîm lled-broffesiynol, gan ei alluogi i ddod â phrofiad uniongyrchol a chyngor yn ôl i staff a dysgwyr y coleg.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau