Mae un o ddysgwyr Coleg y Cymoedd, Ruben Duggan, wedi sicrhau lle yn rownd derfynol Gwobrau HIP, gan guro cystadleuaeth frwd gan ddysgwyr o bob rhan o Gymru ac ennill rowndiau terfynol rhanbarthol Cymru.
Mae’r digwyddiad rhanbarthol, a gynhaliwyd yng Ngholeg Gwent yn gynharach y mis hwn, yn rhan o gystadleuaeth flynyddol a gynhelir mewn chwe rhanbarth ledled Cymru a Lloegr; i chwilio am ddarpar weithwyr gorau’r diwydiant.
Mae safon y gystadleuaeth yn hynod o uchel ac nid oedd eleni’n ddim gwahanol. Roedd yn rhaid i ddysgwyr Lefel 2 a 3 Plymio a Gwresogi o gampws Ystrad Mynach arddangos eu sgiliau (gan gynnwys eu sgiliau cadw amser), er mwyn cwblhau’r dasg o gwblhau gosodiad ymarferol byw.
Mae Ruben, sy’n 20 oed ac yn dod o Fan-Moel, yn astudio Plymio Lefel 3 ar gampws Ystrad Mynach ac wedi bod yn ddysgwr yn y coleg ers 4 blynedd. Gyda’i fryd ar yrfa yn y diwydiant Plymio mae Ruben bob amser wedi bod yn awyddus i gymryd rhan mewn cystadlaethau allgyrsiol; i ehangu ei sgiliau a chynyddu ei wybodaeth o’r grefft.
Yn dilyn ei lwyddiant yn y gystadleuaeth, dywedodd Ruben “Roedd y gystadleuaeth yn o ddwys ond mae tiwtoriaid yn y coleg wedi ein paratoi ar gyfer heriau fel hyn, gan rannu eu sgiliau proffesiynol a’u gwybodaeth. Rhaid imi ddiolch iddynt am eu hanogaeth. Rwy’n edrych ymlaen at y rownd derfynol ym mis Ebrill a gwn y gallaf ddibynnu ar eu cefnogaeth”.
Wrth longyfarch Ruben, dywedodd Lee Perry (tiwtor Plymio) “Roedd yn wych gweld y gystadleuaeth hon yn dychwelyd ac mae’r adran mor falch o’r holl ddysgwyr a gymerodd ran. Maent wedi cynhyrchu gwaith rhagorol. Rydym wrth ein bodd bod Ruben wedi ennill y gystadleuaeth, roedd ei waith yn drawiadol iawn. Mae cwblhau’r dasg o dan bwysau safonau cystadleuaeth a chyfyngiadau amser bob amser yn anodd, ond mae ansawdd y crefftwaith a ddangosir gan Ruben yn dangos ei allu yn glir.
Byddwn yn parhau i’w gefnogi yn rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn HIP a gynhelir yn Worcester Bosch ym mis Ebrill; ac rydym yn gobeithio ei weld yn cael ei goroni’n Blymwr y Flwyddyn y DU. Mae gan y coleg hanes yn y gwobrau hyn. Rydym wedi ennill y digwyddiad rhanbarthol bum gwaith ac rydym wedi bod yn enillydd cyffredinol yn y DU unwaith – sy’n dangos ansawdd y dysgwyr a ni ein hunain fel adran. Roedd dysgwyr trydanol y coleg hefyd yn enillwyr yn eu priod gystadleuaeth. Canlyniad ardderchog felly i’r adran a’r coleg”.