Mae gan staff a phrentisiaid adran gwaith plymwr Coleg y Cymoedd achos i ddathlu, gan i un o’u plith fod ymhlith y rhai sy’n brwydro am lawryf prentis gorau gwaith plymwyr y DU am y drydedd flwyddyn yn olynol.
Llwyddodd Scott Fuller, prentis ar ei drydedd blwyddyn ar gampws Ystrad Mynach Coleg y Cymoedd, i faeddu cyd-brentisiaid o Gymru a chael ei ddewis fel un o ddau gynrychiolydd Cymru yn ffeinal Prentis y Flwyddyn y DU dan nawdd y cylchgrawn ‘Heating Engineers Installers & Plumbers’.
Yn rownd derfynol Cymru roedd Scott, 20 mlwydd oed o Dredegar Newydd, yn wynebu prentisiaid o un coleg ar ddeg arall. Mewn gornest o chwe awr roedd galw am i’r prentisiaid osod cawod, toiled, dysgl ymolch a system ‘saniflo’ a hynny yn erbyn y cloc. Ei sgiliau technegol a’i sylw i’r manylion enillodd y dydd i Scott a chaniatáu iddo gael cyfle i gystadlu am deitl prentis gwaith plymwr gorau’r DU.
Nawr, yn dilyn ei lwyddiant yn y gystadleuaeth, gynhaliwyd yng Ngholeg y Cymoedd, bydd Scott yn cynrychioli Cymru yn ffeinal y DU, a hynny yn adnoddau hyfforddi ‘ADEY’ yn Cheltenham ar Ebrill 27 a 28 2016.
Wrth drafod ei fuddugoliaeth a’r ffeinal nesaf, dywed Scott: “Roedd yn ffantastig i fod yn enillydd Cymru y ddwy flynedd ddiwethaf, ond mae cyrraedd ffeinal y DU am y trydydd tro yn gwbl anghredadwy. Rydw i’n eitha hyderus am y ffeinal nesaf eleni, gan mod i’n gwybod beth i’w ddisgwyl a’r safon maen nhw’n ei ddisgwyl.
Mae fy nhiwtoriaid wedi bod yn wych, maen nhw wedi cynyddu fy hyder yn barhaus a gwella fy sgiliau dros y flwyddyn ddiwethaf, a hyd yn oed wedi cynnig prentisiaeth i mi. Bydd ffeinal y DU, yn naturiol, yn her unwaith eto ond gobeithio y bydd yn golygu mod i wedi caffael sgiliau a phrofiad ychwanegol fydd yn werthfawr ar gyfer llwyddo’n y dyfodol yn y diwydiant gwaith plymwr.â€
Yn ôl Lee Perry, tiwtor gwaith plymwr Scott: “Roedd i Scott ennill y ffeinal ranbarthol ddwy flynedd yn olynol yn gamp anhygoel, ond mae ei weld yn ffeinal y DU am y trydydd tro yn brawf o ymroddiad, brwdfrydedd a phenderfyniad Scott i fod yn beiriannydd ardderchog. Drwy gydol y flwyddyn mae Scott wedi gwella ar bob agwedd o’i grefft.â€
Fel dysgwr a phrentis Lefel 3, mae oriau Scott wedi’u rhannu rhwng dysgu yn y coleg, ar gampws Ystrad Mynach Coleg y Cymoedd, a’i waith fel prentis gyda chwmni Perry Plumbing Solutions.
Wrth ymateb i lwyddiant Scott, dywedodd Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Mae Scott yn glod i’n coleg; mae’n esiampl o’r modd mae gweithio’n galed a chael hyfforddiant neilltuol yn rhoi cyfleoedd galwedigaethol gwych i ddysgwyr ac yna swyddi gwirioneddol mewn amrywiaeth o ddiwydiannau a gwaith crefftwyr cydnabyddedig. Rydyn ni’n dymuno’r gorau iddo yn y rownd derfynol.â€