Mae artistiaid ifanc talentog o Dde Cymru wedi ennill y cyfle i ddarlunio nofel newydd am ddiwylliant pobl ifanc yn y Cymoedd.
Bydd darluniadau 11 o ddysgwyr o Goleg y Cymoedd yn cael eu defnyddio yn White Petals, nofel gyntaf Maria Grace o Bontypridd. Bu’r dysgwyr artistig yn cystadlu mewn cystadleuaeth i gynnwys eu darluniadau yn y llyfr a’r awdures Maria, ei hunan, ddewisodd yr enillwyr.
Mae White Petals yn hanes digri ond personol o fywyd Emmeline, 14 oed mewn cartref plant yn y Cymoedd. Roedd iechyd ei mam yn rhy wael i allu edrych ar ei hôl. Bwriad penodol Maria oedd i oedolion ifanc ddarlunio’i llyfr cyntaf a chysylltodd â’r cyhoeddwyr Cymreig, sef Gwasg Firefly, i ddod o hyd i’r artistiaid mwyaf addas ar gyfer y gwaith.
Ar ôl cystadleuaeth galed dewiswyd 27 o bobl ifanc dawnus o Dde Cymru i gyfrannu eu darluniadau ar gyfer y 36 pennod o’r llyfr. Mae’r 11 a ddewiswyd o Goleg y Cymoedd yn cyfrannu dros draean o’r darluniadau yn y llyfr a rhai yn cyfrannu ddwywaith.
Dywedodd Aerun Edwards, 17 oed o’r Rhondda sy’n ddysgwr yng Ngholeg y Cymoedd ac wedi darlunio dwy bennod o White Pearls: “Cawson ni ein penodau ein hunain i’w darlunio, felly roedd hynny’n caniatáu i ni fod yn greadigol.â€
“Fy ngobaith ydy astudio cwrs Lefel 3 mewn Celf a Dylunio yng Ngholeg y Cymoedd y flwyddyn nesaf, felly, bu’r profiad hwn yn amhrisiadwy i gael gyrfa yn y diwydiant creadigol.â€
Cyflwynwyd copi o’r llyfr wedi’i lofnodi i’r artistiaid, ynghyd â thystysgrif a rhosyn gwyn, yn ystod lansiad White Petals ar gampws Nantgarw. Mae achlysur lansio’r llyfr yn rhan o sioe haf flynyddol y diwydiannau creadigol sy’n arddangos talent ffres y sefydliad, â’r darlunwyr ifanc llwyddiannus yn rheswm ychwanegol dros ddathlu.
Roedd y llyfr yn rhan o draethawd hir Maria o Brifysgol Morganng yn 2011 lle graddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Ysgrifennu Creadigol a Phroffesiynol. “Daeth y syniad ar gyfer y darluniadau yn gynnar iawn i miâ€, meddai Maria.
Ron i’n gwybod o’r diwrnod cyntaf mod i am i’r nofel gynnwys rhywbeth gwahanol a ron i am roi cyfle i artistiaid ifanc i roi prawf arnyn nhw eu hunain a’u talentau drwy gystadlu yn y gystadleuaeth ddarlunio. Fedra i ddim cychwyn dweud pa mor falch ydw i ohonyn nhw i gyd. Dwi wir wrth fy modd.â€
Dywedodd Paul Lavagna, tiwtor yng Ngholeg y Cymoedd: “Rydyn ni wrth ein boddau bod Maria wedi dewis gweithio gyda Choleg y Cymoedd ar y prosiect unigryw hwn. I lawer o’r dysgwyr bydd hwn yn gychwyn da i yrfa ym maes celf neu ddarlunio. Mae diwyg y llyfr yn wych ac mae’r darluniadau yn tystio i dalentau pobl ifanc, yma yn y coleg ac ar hyd a lled De Cymru.
“