Portead o ysbryd y gymuned gan awduron o fyfyrwyr

Mae tiwtoriaid a darlithwyr peirianneg o goleg yng nghymoedd De Cymru wedi derbyn cymeradwyaeth uchel iawn mewn rhaglen wobrwyo nodedig lle cafwyd 20,000 o enwebiadau o’r holl DU.

Enwyd tîm peirianneg Coleg y Cymoedd yn Dîm y Flwyddyn ym maes Addysg Bellach y DU yn Seremoni Wobrwyo Addysgu blynyddol Pearson, seremoni sy’n uchel ei phroffil a bydd y rhain nawr yn mynd ymlaen i gystadlu yn erbyn timoedd o’r holl sectorau addysg ar hyd a lled y DU er mwyn ennill y fedal Aur yn y rownd derfynol yn Llundain ym mis Hydref.

Mae dathliad y tîm yn un o 55 o rai sy’n digwydd mewn ysgolion a cholegau ar draws Lloegr, Iwerddon a Chymru ar Ddiwrnod Diolch i Athro, 16 Mai 2014, pan gyflwynir Gwobrau Addysgu Arian Pearson i arwyr lleol nodedig ym myd addysg.

Dathliad blynyddol o athrawon a dysgu eithriadol ydy Gworau Addysgu Pearson, a sefydlwyd y gwobrau yn 1999 gan yr Arglwydd Puttnam i gydnabod dylanwad ac effatih athro ysbrydoledig ar fywydau’r bobl ifanc yn maen nhw’n eu haddysgu.

Dewiswyd tîm y cryf o 28 o beirianwyr oherwydd yr ystod o arbenigedd eithriadol sydd gan y tîm ym maes peirianneg awyrofod, trydanol a mecanyddol yn ogystal â’u gweledigaeth glir i fod y darparwr gorau o hyfforddiant prentisiaethau peirianneg yng Nghymru.”

Dywedodd Gavin Davies, cyfarwyddwr cynorthwyol cwricwlwm technoleg yng Ngholeg y Cymoedd: “Mae’r wobr hon yn ganlyniad cyd-ymdrech ysbrydoledig y tîm. Mae’n dilyn blwyddyn anhygoel o lwyddiannus i’n hadran ni sydd ynddo’i hun ar sail 30 mlynedd o waith y coleg yn gweithio mewn partneriaeth gyda busnesau i gyflenwi cwricwlwm sy’n darparu ar gyfer anghenion penodol ein dysgwyr a’u cyflogwyr.”

Ychwanegodd: “Rhaid talu teyrnged hefyd i weithwyr eraill heblaw’r 28 aelod o’r tîm peirianneg. A siarad ar ran darlithwyr yr adran, y tiwtor, technegwyr a’r swyddog cyflogaeth, hoffwn ddiolch i uwch dîm rheoli’r coleg am eu cymorth parhaus a’u buddsoddiad yn ein hadnoddau. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae’r hinsawdd hwn o gymorth yn sicrhau ein bod yn darparu hyfforddiant heb ei ail. Dwi’n falch i fod yn rhan o goleg gyda chenhadaeth i ddarparu addysg ac hyfforddiant rhagorol yng Nghymoedd De Cymru.”

Bydd y tîm Peirianneg nawr yn ymuno â chyd-enillwyr y Wobr Arian yn rownd derfynol y Gwobrau Addysgu yn y Guildhall yn Llundain ar Hydref 26, lle bydd 10 o’r 55 enillwyr arian yn derbyn Gwobr Aur. Bydd y BBC yn ffilmio ac yn darlledu’r seremoni.

Ar hyn o bryd, mae 152 o ddysgwyr llawn amser a 192 o ddysgwyr rhan amser wedi’u hymrestru ar raglenni peirianneg y coleg, yn amrywio o gymwysterau lefel mynediad megis Haen Dysgu Sylfaen mewn Peirianneg, hyd at gymwysterau lefel pump megis Gradd Sylfaen mewn Peirianneg Gwaith Trydan ac Electroneg. Mae llawer o’r dysgwyr hyn yn brentisiaid ac mae tua 150 ohonyn nhw yn cael eu noddi gan eu cyflogwyr.

Mae Coleg y Cymoedd a ffurfiwyd ar ôl uno Coleg Morgannwg a Choleg Ystrad Mynach yn gwasanaethu 25,000 o fyfyrwyr o ardal draddodiadol ddiwydiannol bwrdeistrefi Caerffili a Rhondda Cynon Taf a’r ardaloedd cyfagos. Yn ogystal ag hyfforddiant galwedigaethol, mae’r coleg hefyd yn darparu’r dewis mwyaf o bynciau Lefel A ar un safle ar gyfer dros 600 o ddysgwyr. Mae 1,000 o staff yn gweithio ar draws pum campws – Aberdâr, Nantgarw, Rhondda, Rhymni ac Ystrad Mynach.

Dywedodd Emma Thompson, yr actores sydd wedi ennill Oscar am ei gwaith actio ac sy’n llywydd y Gwobrau Addysgu: “Mae’n wir fraint i fod yn llywydd y Gwobrau Addysgu. Dw i’n ddyledus iawn i fy athrawon gwych yn yr ysgol a’r brifysgol am yr hyn dw i wedi ei gyflawni ac mae’n gyffrous i ymuno â dathlu’r proffesiwn pwysicaf ohonyn nhw i gyd.”

Dywedodd Rod Bristow, Llywydd Core Markets yn Pearson: “Mae pawb yn cofio athro a’u symbylodd a’u herio, felly, mae’n bwysig dweud diolch. Addysgu da sy’n gwneud gwahaniaeth i’r dysgu a dyna’r rheswm pam y dylid cydnabod athrawon gwych.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau