Mae un o ddysgwyr Coleg y Cymoedd wedi ei gynnwys ar restr fer genedlaethol ym maes cyfrifeg am yr ail flwyddyn yn olynol ar ôl plesio’r beirniaid gyda’i sgiliau a’u frwdfrydedd dros y diwydiant.
Cyrhaeddodd Jordan Harley, prentis lefel 4 y cwrs Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) yn y coleg, y rhestr fer eleni yn y categori Technegydd Cyfrifon o Wobrau Cyllid Cymru (Finance Awards Wales), sy’n cydnabod a dathlu talentau gweithwyr proffesiynol byd cyllid yng Nghymru.
Mae gan y dysgwyr galluog brofiad o ennill, gan iddo gipio’r wobr gyntaf yn yr un maes yn 2021. Ei obaith nawr ydy ail-adrodd y gamp eto eleni.
Penderfynodd rheolwr Jordan ei gynnig am y wobr eto ar ôl gweld ei holl waith caled ac ymroddiad yn ystod ei brentisiaeth.
Ac yntau’n astudio busnes yn y brifysgol yn wreiddiol ar ôl cwblhau ei bynciau Lefel A, bu Jordan yn agored i nifer o fodiwlau cyfrifeg yn ystod ei radd a’i hysbrydolodd i ddilyn gyrfa yn y sector. Yna penderfynodd ddilyn ei angerdd newydd a chofrestru ar brentisiaeth cyfrifeg yng Ngholeg y Cymoedd.
Yn dilyn cyhoeddi’r rhestr fer, i gael siawns o ennill, bydd yn rhaid i Jordan nawr baratoi cyflwyniad i egluro pam y dylai ennill y wobr a chymryd rhan mewn cyfweliad gyda’r panel beirniaid a fydd yn cael ei gynnal cyn y seremoni.
Bydd enillwyr pob categori yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, ar Fehefin 24ain.
Dywedodd Jordan: “Pan gefais fy enwebu a fy rhoi ar restr fer y wobr gyntaf, allwn i ddim credu’r peth. Roeddwn i’n eithriadol o falch. Roedd cyflwyno i banel o feirniaid yn brofiad brawychus ond gwych. Mae wedi datblygu fy sgiliau ac roedd yn deimlad braf i gael cydnabod fy ngwaith caled.
“Yn dilyn fy llwyddiant y llynedd, meddyliais ‘beth am wneud cais eto?’ Rwyf wrth fy modd fy mod unwaith eto wedi cyrraedd y rhestr fer ac yn edrych ymlaen at y rowndiau terfynol.”
Wrth edrych ymlaen, mae Jordan yn gobeithio cwblhau cwrs achrededig gyda Chymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) ar ôl ei brentisiaeth cyn cymryd swydd amser llawn mewn cwmni cyfrifeg.