Cafodd y prentis lleol, Jamie Jones o FSG Tool & Die, gydnabyddiaeth genedlaethol yn un o raglenni gwobrau enwocaf y DU a drefnir gan Make UK-The Manufacturers’ Organisation.
Ymunodd Jamie o’r Porth â Choleg y Cymoedd i astudio Peirianneg i ddechrau ac arweiniodd ei ddiddordeb brwd mewn peiriannu at brentisiaeth gyda FSG Tool and Die ym Mhont-y-clun.
Cyhoeddwyd bod Jamie yn gydradd ail yng ngwobr Ymdrech Prentis Peirianneg Make UK i gydnabod y ffordd y mae wedi dysgu a gwneud cynnydd yn gyflym, gan gael effaith amlwg ar brosiectau. Yn benodol ei allu i gyfrannu at benderfyniadau allweddol ar lefel peiriannydd sydd wedi bod yn werthfawr yn ystod y daith o brototeip i gynhyrchu lle mae llawer o heriau technegol i’w goresgyn.
Dywedodd Janis Richards, Cyfarwyddwr Rhanbarth Make UK yng Nghymru:
“Mae’r gwobrau hyn yn dyst i’r cwmnïau a’r unigolion deinamig sy’n gweithio ym maes peirianneg a gweithgynhyrchu yng Nghymru. Mae’r sector wedi bod wrth galon gweithgarwch yn ystod yr argyfwng ac wrth inni ailadeiladu ein heconomi bydd dyfodol disglair i gwmnïau ac unigolion sy’n gwneud y gorau o’u talent, yn union fel Jamie.
Dywedodd Mike Hynes, Uwch Weithredwr Cyfrifon, Relayr, noddwr y Wobr Manufacturing Matters: “Rydym yn helpu cwmnïau mewn marchnadoedd diwydiannol i lywio drwy’r aflonyddwch yn llwyddiannus ac aros yn berthnasol. Mae ein cyfuniad unigryw o ddefnyddio technoleg o’r radd flaenaf a chymorth ariannol ac yswiriant pwerus i gyflawni canlyniadau busnes, wedi bod yn arbennig o bwysig eleni gan fod gweithgynhyrchwyr wedi dangos y gallu i addasu a gwytnwch wrth ymateb i heriau digynsail. Rydym yn falch o noddi’r categori Manufacturing Matters ac mae wedi bod yn ysbrydoledig clywed gwaith gwych enillwyr eleni. â€
“