Bu prentis i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili o Goleg y Cymoedd bron ag ennill gwobr prentis y flwyddyn mewn seremoni yn cydnabod talent busnes yng Nghaerffili.
Mae Elliott Keep, 21 oed o Ystrad Mynach, yn dathlu ei fod wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Fforwm Busnes Caerffii 2015 yng nghategori Prentis y Flwyddyn.
Cafodd cwmnïau lleol o Gymoedd De Cymru eu cydnabod mewn seremoni wobrwyo flynyddol sy’n dathlu menter nodedig yn un o ranbarthau busnes mwyaf uchelgeisiol y wlad.
Gosodwyd Elliott sydd, ar hyn o bryd, yn astudio Lefel 3 Gweinyddu Busnes fel rhan o’i brentisiaeth gyda’r coleg, ei roi yn un o dri ar y rhestr fer yn y categori cryf hwn a daeth yn agos iawn at y brig.
Enwebwyd Elliott gan diwtoriaid y coleg am ei gyfraniad effeithiol yn y gweithle a sut mae wedi addasu’n ddi-dor i addysg cyfrwng Cymraeg a Saesneg fel ei gilydd.
Anrhydeddwyd wyth cwnmi ac unigolion yn Seremoni Wobwyo Fforwm Busnes Caerffili a gynhaliwyd yng Ngwesty Bryn Meadows, Ystrad Mynach.
Dywedodd Elliott: “Dw i’n hynod o falch i gael fy enwebu ar gyfer Gwobr Prentis y Flwyddyn, dwi’n gobeithio ehangu fy ngwybodaeth a fy mhrofiad yng Nhyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, er mwyn cael swydd llawn amser a chychwyn ar fy ngyrfaâ€.
Dywedodd Rachel Evans, Hyfforddwraig / Asesydd yng Ngholeg y Cymoedd: “Rhoddir cyfrifoldeb ychwanegol yn gyson i Elliott yn ei rôl ac mae wrth ei fodd gyda’r sialens. Mae ei allu i gynhyrchu gwaith o safon uchel ac ar yr un pryd cadw at amserlen yn esiampl i bawb. Rydyn ni’n hynod o falch ohono ac wrth ein bodd fod ei gyflawniadau’n cael eu cydnabod.â€
Roedd gan Goleg y Cymoedd rôl bwysig i’w chwarae yn Seremoni Wobrwyo Fforwm Busnes Caerffili yn noddi Entrepreneur y Flwyddyn a enillwyd gan Dean Jenkins o Academi Codez.