Daeth dysgwr o Goleg y Cymoedd yn ail mewn seremoni Cynhwysiad ac Amrywiaeth ym maes chwaraeon i gydnabod gwirfoddolwyr diwyd yng Nghaerffili.
Enwebwyd Callum Sapey 17 oed o’r Coed Duon, sy’n astudio Chwaraeon Lefel 3 ar gampws Ystrad Mynach, am ei waith gyda rhaglen gwyliau i’r anabl a thîm pêl-droed i’r anabl.
Enwebwyd gwirfoddolwyr ar sail eu cyfraniad nodedig i faes chwaraeon a hamdden yn ardal Caerffili. Cafodd y gwirfoddolwyr eu cydnabod am gyfrannu dros 200 awr o waith gwirfoddol yn ardal Caerffili yn 2014.
Cychwynnodd Callum Sapey helpu gyda’r rhaglen gwyliau i’r anabl yn ifanc iawn er mwyn cynorthwyo ei frodyr i brofi gweithgareddau corfforol. Mynychodd Callum yr holl raglenni hanner tymor heb golli diwrnod, hyd yn oed yn mynychu ar y diwrnod y casglodd ei ganlyniadau TGAU.
Mae Callum hefyd yn rhedeg tîm pêl droed Dreigiau’r Bont (Pont Dragons) gan ei fod yn sylweddoli pa mor bwysig ydy hi i blant ag anghenion ychwanegol gymryd rhan mewn chwaraeon. Mae Callum yn gweithio’n gyson ar ddulliau i wella, nid yn unig y gweithgareddau, ond ei sgiliau personol ei hun.
Cynhaliwyd Noson Wobrwyo gwirfoddolwyr Chwaraeon Caerffili yng nghanolfan Bryn Meadows, Maesycwmer ar Ionawr29 i ddathlu cyflawniadau gwirfoddolwyr chwaraeon o fewn Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Daeth Callum yn ail agos iawn at Peter Key a enillodd y wobr am ei ymdrechion gyda nofwyr ym Mwrdeistref Sirol Caerffili . Bu Peter yn brif hyfforddwr Sgwad Nofio Sir Caerffili ers 25 mlynedd yn ogystal â bod yn brif hyfforddwr Sgwad Nofio Anabledd y Dreigiau dros y 10 mlynedd diwethaf.
Dywedodd Neil Smothers, Pennaeth Chwaraeon yng Ngholeg y Cymoedd: “Roedd yn wych bod Callum wedi cael ei enwebu am y wobr nodedig hon; mae’n haeddu cydnabyddiaeth am yr oriau o waith gwirfoddol y mae wedi’u rhoi i amrywiaeth o fentrau chwaraeon yn ardal Caerffili. Yng Ngholeg y Cymoedd rydyn ni’n annog ein dysgwyr chwaraeon i gymryd rhan mewn rhaglenni chwaraeon lleol er mwyn ehangu eu profiad a rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned leolâ€.
Kingsley Jones prif hyfforddwr Dreigiau Gwent oedd y siaradwr gwadd yn y seremoni wobrwyo.
Dyweodd y Cynghorydd David Poole, yr Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymunedol a Hamdden: “R’on i wrth fy modd I weld gwaith caled gwirfoddolwyr chwaraeon o fewn Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cael ei wobrwyo gan eu bod yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod trigolion yn derbyn yr hyfforddiant a’r cymorth gorau posibl. Hefyd, hoffwn ddiolch i Bryn Meadows, CC Sports, Andrew Orchard Photography, Uprise Print, Chwaraeon Cymru a Chyngor Bwrdesitref Sirol Caerffili am noddi’r achlysur gwych hwnâ€.