Mae timoedd chwaraeon a chystadleuwyr o Goleg y Cymoedd wedi cymhwyso i gynrychioli Cymru mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau chwaraeon ym Mhencampwriaethau Chwaraeon Colegau Prydain ym mis Ebrill.
Bydd timoedd ac unigolion yn mynd ymlaen i gystadlu yn y Pencampwriaethau Cenedlaethol ar ôl ennill eu categori yn rowndiau terfynol rhanbarthol Pencampwriaethau Colegau Cymru ym mis Tachwedd.
Roedd y timoedd yn cynnwys timoedd pêl foli merched a dynion Campws Nantgarw sy’n cael eu harwain gan gapten y meched, Atlanta Taylor a chapten y dynion Tom Dacey.
Alexandra Evans, sy’n astudio Chwaraeon Lefel 3 ar Gampws Ystrad Mynach ydy Pencapwraig Tenis Bwrdd Merched Colegau Cymru a bydd yn cynrychioli Coleg y Cymoedd yn y gystadleuaeth genedlaethol. Cyn hyn, daeth Alexandra yn drydydd wrth gynrychioli’r coleg mewn twrnameint tenis bwrdd y DU.
Enillwyd Pencampwriaeth Badminton i Barau o Ferched gan Kimberly Williams a Mary Ann Lewis, myfyrwyr Chwaraeon Lefel 2 sy’n astudio ar gampws Ystrad Mynach.
Enillodd Natasha Lewis a Ryan Jones, y ddau yn astudio Chwaraeon Lefel 2 ar gampws Ystrad Mynach, Gystadleuaeth Pencampwriaeth Badminton Colegau Cymru i Barau Cymysg a byddan nhw’n cystadlu gyda’i gilydd yn y rownd derfynol genedlaethol ym mis Ebrill.
Digwyddiad blynyddol ydy’r Pencampwriaethau Cenedlaethol sydd wedi tyfu’n aruthrol ac erbyn hyn yn cynnal pedwar ar ddeg o gampau mewn pencampwriaethau rhanbarthol a chenedlaethol. Mae’r Pencampwriaethau Cenedlaethol wedi cael eu cynnal ers tri deg pump o flynyddoedd sef y gornestau myfyrwyr sydd wedi para hiraf ac un o’r digwyddiadau chwaraeon mwyaf yn y DU.
Cystadlodd llawer o dimoedd chwaraeon ac unigolion eraill y coleg mewn nifer o gategorïau. Bu tîm Pêl Fasged campws Ystrad Mynach a thîm pêl rwyd y coleg cyfan hefyd yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Colegau Cymru gan berfformio’n dda.
Dywedodd Tom Dacey, Capten tîm Pêl Foli’r dynion: ‘Roedd y gystadleuaeth yn gam da ar y ffordd i gynyddu fel tîm fydd yn chwarae yn erbyn sgwadiau mwy profiadol ac wedi’u drilio’n dda. Bu’r gystadleuaeth o gymorth i ni gydweithio i godi ysbryd ein tîmac i ddeall sut mae pob aaelod o’r tîm yn ymdopi o dan amgylchiadau arbennig ar y cwrt ac oddi arno.â€