Prentisiaid yn creu argraff yn y seremoni graddio TG

Caiff un o golegau mwyaf Cymru weld budd ariannol ar ôl troi at oleuadau ynni effeithlon i ostwng eu biliau trydan a diogelu’r amgylchedd.

Mae Coleg y Cymoedd, sy’n gwasanaethu dros 25,000 o fyfyrwyr o ardal eang ar draws cymoedd y De, yn gosod goleuadau ynni effeithlon drwy’r tri champws mwyaf sydd ganddyn nhw er mwyn arbed dros £31,790 y flwyddyn a gostwng dros 142 tunnell fetrig bob blwyddyn o allyriadau CO2 .

Gwnaed y buddsoddiad yn bosibl drwy fenthyciadau di-log oddi wrth Salix Finance, sy’n gweithio ar ran Llywodraeth Cymru i well effeithlonrwydd ynni ysgolion, swyddfeydd cynghorau, canolfannau argyfwng, prifysgolion, colegau ac adeiladau cyhoeddus eraill.

Mae Coleg y Cymoedd ymhlith y rhai diweddaraf i gydweithio â Salix, sydd hyd yma wedi cefnogi buddsoddiadau o dros £16.5miliwn mewn dros 850 prosiect yng Nghymru, gyda’r bwriad o greu cyfanswm arbedion o £53 milliwn drwy’r sector cyhoeddus.

Roedd cyfnod cyntaf prosiect y coleg yn golygu gosod goleuadau ynni effeithlon T5 ac offer LED drwy’r cyfan o gampws Ystrad Mynach. Gwnaed hyn dros 5 mis yn ystod 2013 a’i ariannu drwy fenthyciad di-log o £81,100 oddi wrth Salix.

Mae’r coleg wedi cael benthyciad pellach o £63,650 i barhau â’r gwaith ar gampysau Nantgarw a Rhondda ac wedi manteisio ar y gwyliau haf i osod y dechnoleg oleuo newydd a gostwng rhagor ar y biliau.

Bydd Coleg y Cymoedd yn cael arbedion o’u biliau ynni fydd yn eu galluogi i ad-dalu’r benthyciadau di-log yn llawn ac yna’r parhau i ennill yn ariannol drwy filiau trydan llai am flynyddoedd maith, ymhell ar ôl ad-dalu’r benthyciad.

Mewn sylwadau am y prosiectau, dywedodd Paul Martin, Dirprwy Bennaeth Coleg y Cymoedd: “Mae’n bur anhebyg y bydden ni wedi gallu mynd ymlaen gyda’r buddsoddiad hwn heb gefnogaaeth Salix. Mae’r prosiect hwn wedi bod mor bwysig i’r coleg, i leihau’n ôl-troed carbon ac arbed arian. Bydd yr arbedion fyddwn ni’n eu gwneud yn cael eu hailgylchu i’r tri champws, i atgyfnerthu’r addysg, sgiliau a hyfforddiant, felly bydd ein myfyrwyr yn cael manteision o’r prosiect.”

Yn ôl Lucinda Green, cydlynydd rhaglen Salix Finance yng Nghymru: “Bu gweithio gyda Choleg y Cymoedd ar y cam cyntaf yn bleser pur ac rydyn ni’n edrych ymlaen i weld canlyniadau terfynol yr holl brosiect yn y dyfodol agos.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau