Profiad gwaith dysgwyr o Dde Cymru yn yr Eidal

Mae grŵp o ddysgwyr o Dde Cymru wedi teithio i’r Eidal am brofiad gwaith unigryw a fydd yn cyfoethogi eu hastudiaethau nôl yn y DU.

Aeth pedwar o ddysgwyr cwrs Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant ar daith bythefnos i dref Castelfranco Veneto yng Ngogledd yr Eidal. Roedd y daith yn rhan o’r rhaglen Erasmus+ sy’n cynnig cyfle i fyfyrwyr astudio dramor. 

Treuliodd y dysgwyr o Goleg y Cymoedd, sy’n astudio ar gampws Nantgarw, yr wythnos gyntaf mewn meithrinfa ac yna wythnos mewn ysgol gynradd er mwyn cael cymaint â phosibl o brofiad gwaith gyda gwahanol grwpiau oed. Arsylwodd y grŵp ar y modd y mae gwersi a gweithgareddau yn cael eu cynnal, gan sylwi ar rai gwahaniaethau yn arddull yr addysgu yn yr Eidal o’i gymharu â’r DU.

Un o’r dysgwyr ffodus a gafodd fynd i’r Eidal oedd Laura Watson, 17 oed, o Gaerdydd a sylwodd yn fuan pa mor ymlaciol oedd yr addysgu yn ysgolion yr Eidal. “Roedd hi’n amlwg cymaint roedd y plant yn cael eu hannog gan athrawon y feithrinfa i wneud penderfyniadau drostyn nhw eu hunain yn hytrach na dibynnu ar yr hyn a ddywedir wrthyn nhw am ei wneud. Gwelwyd dull tebyg o fynd ati yn yr ysgol gynradd hefyd ac yn sicr mae’n arddull addysgu yr hoffwn i ei fabwysiadu.”

Ar y dechrau roedd yr iaith yn rhwystr i’r grŵp o Dde Cymru ond yn fuan fe setlon nhw yn yr amgylchedd. Eglurodd Laura:”Ar y dechrau roedd yn frawychus clywed pawb o’n cwmpas yn siarad iaith wahanol ac ron i’n teimlo’n nerfus iawn wrth geisio cyfathrebu gyda’r athrawon. Ond ar ôl diwrnod neu ddau ces fwy o hyder a dysgu ychydig o ymadroddion sylfaenol a fu o help i mi ryngweithio gyda’r staff a’r plant.”

Yn ogystal â chael profiad ymarferol, roedd y daith yn brofiad diwylliannol hefyd i’r dysgwyr wrth iddyn nhw dreulio diwrnod yn Fenis, Treviso a Bassano del Grappa gan flasu danteithion y marchnadoedd. Aeth Laura ymlaen i ddweud: “Roeddwn i’n caru bob munud o’r daith a dysgais i lawer amdana i fy hun hefyd. Roedd rhaid i ni reoli ein harian ein hunain, trefnu trenau ac ymdopi gyda’r iaith oedd yn golygu mod i wedi ennill llawer o annibyniaeth.”

Hefyd mae tri dysgwr cwrs busnes yng Ngholeg y Cymoedd yn manteisio ar raglen Erasmus+, gan fynd ar brofiad gwaith i Wlad y Basg yng Ngogledd Sbaen. Cafodd y dysgwyr brofiad o weithio mewn swyddfa rhith amgylchedd lle wnaethon nhw addasu i wahanol ddiwylliant ac amgylchedd gwaith tra’n ymgodymu gyda iaith newydd a datblygu hyder ac annibyniaeth.

Dywedodd Emma Baxter, tiwtor Gofal Plant yng Ngholeg y Cymoedd a deithiodd i’r Eidal gyda’r dysgwyr: “Yng Ngholeg y Cymoedd, rydyn ni’n annog ein dysgwyr i gofleidio cymaint o brofiadau â phosibl a fydd yn cyfoethogi eu hastudiaethau. Mae’r rhagen Erasmus+ yn werth chweil ac mae’r profiad gwaith ymarferol y mae’r dysgwyr yn ei gael yn rhoi gwybodaeth amhrisiadawy iddyn nhw. Rydyn ni’n gwybod y bydd y daith yn cael effaith bositif iawn ar y dysgwyr.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau