Trwch blewyn oedd rhwng campws nodedig £40 miliwn Nantgarw a’r ‘Shard’ yn Llundain, adeilad sydd wedi ennill canmoliaeth rhyngwladol, yn seremoni nodedig blynyddol y Gwobrau Cenedlaethol Adeiladu Arbenigrwydd.
Daeth campws modern iawn Nantgarw a agorwyd ym Medi 2012 yn ail i’r Shard eiconig yng nghategori ‘Prosiect y Flwyddyn’ yn y seremoni wobrwyo gyffrous yng ngwesty’r Tower yn Llundain.
Cyrhaeddodd y campws rownd derfynol y DU drwy ennill ei gategori yn y seremoni wyborwyo flynyddol a drefnwyd yn gynharach eleni gan Adeiladu Arbenigrwydd yng Ngymru
Nododd Adeiladu Arbenigrwydd yng Ngymru bod campws Nantgarw wedi bod yn esiampl wych o ddarparu manteision nodedig ar gyfer y gymuned drwy ddangos brwdfrydedd ac ymroddiad. Un o blith y nifer o agweddau a gafodd eu canmol oedd y defnydd strategol a wnaed o’r cynllun fel adnodd dysgu ar gyfer myfyrwyr adeiladu a gafodd eu hannog i’w ddefnyddio ar gyfer eu profiad gwaith.
Drwy gydol y flwyddyn, cafwyd seremonïau gwobrwyo Arbenigedd Adeiladu ar draws y DU a’r penllanw oedd yr achlysur cenedlaethol yn cydnabod buddugwyr pob categori. Enillodd campws Nantgarw wobr Prosiect y Flwyddyn Cymru ym mis Gorffennaf. Gyda’r digwyddiad yn ei seithfed blwyddyn mynychodd dros 450 o bobl broffesiynol maes amgylchedd adeiledig o bob cwr o’r DU yr achlysur ar y noson.
Arbenigedd Adeiladu (Constructing Excellence) ydy’r sefydliad unigol yn y DU sydd yn arwain newidiadau ym maes adeiladu. Mae’n bodoli i wella perfformiad y diwydiant er mwyn cynhyrchu gwell amgylchedd adeiledig, ac yn sefydliad dan arweiniad ei aelodau er lles y diwydiant a’i fudd-ddeiliaid.
Dywedodd Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd,: “Dw i’n hynod o falch o’r hyn sydd wedi cael ei gyflawni yn Nantgarw – nid yn unig bod gennym adnodd gwych, ond mai ni ydy darparwr mwyaf o bynciau Lefel A yn Rhondda Cynon Tâf gyda 28 o opsiynau’n cael eu cyflenwi i 580 o ddysgwyr. O gyfuno hyn â’r pynciau galwedigaethol yr ydyn ni’n eu cynnig ar draws y pum campws rydyn ni’n gwneud gwir wahaniaeth i sgiliau, addysg a hyfforddiant yng Nghaerffili a RhCT.â€
Dywedodd Karen Phillips, y Dirprwy Bennaeth a Chyfarwyddwr Prosiect: “Roedden ni wedi gobeithio y bydden ni’n ailadrodd ein llwyddiant pan enillon ni Brosiect y Flwyddyn Cymru ym mis Gorffennaf ond doedden ni ddim yn rhy siomedig i ddod yn ail i’r Shard yn Llundain – prosiect mor uchel ei broffil!â€