Mae grŵp o ddysgwyr o Gampws Aberdâr, Coleg y Cymoedd, wedi trechu nifer o golegau cyfagos i ennill Gwobr Fenter NUS Cymru, am eu gwaith gyda phrosiect Llais y Dysgwr a Lleisiau Lleol.Â
Mae’r coleg yn cydweithio’n agos gyda gwasanaethau cwnsela ‘Eye to Eye Counselling’ sy’n cynnig cefnogi plant a phobl ifanc hyd at 25 mlwydd oed yn ardal Rhondda Cynon Taf. Felly, pan ofynwyd iddyn nhw ddarparu dvd, roedd y dysgwyr yn awyddus i gymryd rhan yn y gwaith.
Roedd y prosiect Lleisiau Lleol/Community Voice yn golygu cynnwys dysgwyr o’r coleg, disgyblion o Ysgol Gymuned Aberdâr, gwasanaethau cwnsela ‘Eye to Eye Counselling’ a Theatr Spectacle i gynhyrchu dvd sy’n trafod materion iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc.
Dewisodd y dysgwyr o’r Cymoedd ac aelodau grŵp gwrth-fwlio’r Ysgol Gymuned ganolbwyntio ar bwnc hunan-niweidio, sy’n gallu bod yn anodd ei ddeall ac yn bur gyffredin yng Nghwm Cynon. Mae’n ystadegyn syfrdanol cenedlaethol bod rhwng un o bob deuddeg ac un o bob pymtheg o bob ifanc yn niweidio eu hunain.
Yn ôl Emma Allcock, cwnselydd gyda gwasanaethau ‘Eye to Eye Services’: “Bydd y dvd hwn yn cael ei ddangos mewn ysgolion a cholegau ar hyd a lled RhCT a’n gobaith ydy codi ymwybyddiaeth o achosion hunan-niweidio, sut i’w adnabod ac i sicrhau bod help ar gael.â€
Mae’r dvd wedi ei gynhyrchu’n gyfangwbl gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc, o ddarparu fframwaith y stori hyd at y ffilmio, a phawb yn rhoi o’u hamser hamdden i greu’r gwaith gorffenedig.
Bu Kim Sanders, Cydlynydd Ysgolion Iach a Lleisiau Lleol yn Ysgol Gymuned Aberdâr yn ymwneud â’r grŵp ac mae hi wedi gweld yr arddeliad fu’n rhan o greu’r dvd. Meddai hi: “Roedd y bobl ifanc fu’n rhan o brosiect Lleisiau Lleol mor angerddol dros greu’r ffilm, rwy’n sicr bydd y gwaith yn cael ei groesawu ac yn galluogi rhieni, gofalwyr, athrawon a rhai’n ymwneud â phobl ifanc i adnabod hunan-niweidio a’u cyfeirio at y gefnogaeth sydd ar gael.â€
Bydd y dysgwyr o’r coleg yn defnyddio’r dvd fel rhan o’u cyflwyniad yn eu cystadleuaeth nesaf, Gwobrau Cenedlaethol NUS Prydain, sy’n cael eu cynnal yn Lerpwl ddiwedd y mis. Roedd Alice Reardon, un o ddysgwyrColeg y Cymoedd ac aelod o Bwyllgor Gweithredol Lleisiau Lleol Campws Aberdâr, yn hynod falch o lwyddiant y prosiect ac yn edrych ymlaen at fynd ymlaen i’r ornest genedlaethol. Meddai hi: “Yn bump ar hugain oed, mae gen i ddau blentyn ac y maen nhw’n rhan hyfryd sy’n llanw fy mywyd. Rydyn ni’n byw mewn cymuned mor ardderchog ac yn rhan ohoni; mae yma gymaint o gariad a brwdfrydedd dros y genhedlaeth nesaf! Mae gweithio gyda myfyrwyr gwych Ysgol Gymuned Aberdâr wedi agor fy llygaid mor ysbrydoledig gall ein cymuned fach ni fod ac mae’n dangos calonnau mor fawr sydd yma.â€