Rebecca ydy ‘Myfyriwr y Flwyddyn Endsleigh’

Yn ddiweddar, croesawodd Coleg y Cymoedd ymwelwyr o Estonia a mynd â nhw o gwmpas gampws Nantgarw a gweld sut mae sefydliadau addysgol yng Nghymru yn canfod dysgu blaenorol myfyrwyr sy’n dychwelyd i fyd addysg neu’n newid llwybr eu hastudiaeth.

Daeth deg ymwelydd gan gynnwys pedwar cynrychiolydd o ‘Foundation Innove’ a chwe chyfarwyddwr o wahanol golegau galwedigaethol a hyfforddi yn Estonia i Gymru ar ymweliad a drefnwyd gan Agored Cymru.

Roed y grŵp ar ymweliad a ariannwyd gan Ewrop fel rhan o’r gwaith y maen nhw’n eu wneud i sicrhau bod pob aelod-wladwriaeth yr UE yn sefydlu systemau cenedlaethol i ddilysu dysgu anffurfiol fel rhan o strategaeth yr UE i greu swyddi a thwf.

Tasg y grŵp oedd darganfod sut mae sefydliadau addysgol yn canfod dysgu anffurfiol yng Nghymru ac roedd y modd mae colegau addysg bellach yn defnyddio Canfod Dysgu Blaenorol, a sut y cymhwysir y system o Sicrhau Ansawdd Dysgu Gydol Oes, o ddiddordeb arbennig iddyn nhw.

Dyweodd John Phelps, Dirprwy Bennaeth Addysgu a Dysgu yng Ngholeg y Cymoedd: “Rydyn ni, yng Ngholeg y Cymoedd yn croesawu ymweliadau gan bartneriaid rhyngwladol oherwydd eu bod yn cyfoethogi profiad dysgu pawb, yn staff a dysgwyr fel ei gilydd. Fe wnaethon ni rannu ein prosesau a’n polisïau ar ganfod dysgu a phrofiadau blaenorol a’r meini tramgwydd yr ydyn ni wedi dod ar eu traws a sut yr ydyn ni’n gweithredu’r systemau hyn mewn partneriaeth â ‘City and Guilds’ a ddaeth aton ni i ofyn i fod yn un o’u colegau partner y maen nhw’n cydweithio’n agos â nhw.”

Yn ogystal ag ymweld â Choleg y Cymoedd, aeth y grŵp i Brifysgol Metropolitan Caerdydd, Acorn Learning Solutions a chwrdd â chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Y Sefydliad Cenedlaethol dros Addysg Barhaus i Oedolion Cymru, Creo Skills, Siawns Teg a Choleg Cymunedol YMCA. Bu’r grŵp hefyd yn yr Iseldiroedd i gymharu eu system nhw o Ganfod Dysgu Blaenorol.

Dywedodd Janet Barlow, Prif Weithredwr Agored Cymru: “Mae bob amser yn fraint i rannu ein dulliau o fynd ati i ddysgu gyda chydweithwyr o wledydd eraill a darganfod gymaint sydd gennym yn gyffredin yn ogystal â’r hyn gallwn ddysgu oddi wrth ein gilydd.

Sefydlwyd ‘Foundation Innove’ yn 2003 yn sefydliad di-elw sy’n cydlynu gweithgareddau dysgu gydol oes a gweithredu’r rhaglenni a’r prosiectau a chymorth strwythurol yr UE.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau