Ar ôl dwy flynedd o ddysgwyr yn derbyn eu graddau gartref, mae Coleg y Cymoedd wedi croesawu cael myfyrwyr yn ôl i’r campws i dderbyn eu canlyniadau. Gosodwyd y carped coch i gannoedd o ddysgwyr wrth iddynt gyrraedd y safle i ddathlu eu cyflawniadau gyda chyd-ddisgyblion a thiwtoriaid.
Mae’r coleg, sy’n gwasanaethu dysgwyr ar draws Rhondda Cynon Taf a Chaerffili, wedi cael graddau uchel ar draws ei gyrsiau academaidd a galwedigaethol, gyda’i Ganolfan Safon Uwch yn Nantgarw yn cyflawni cyfradd lwyddo gyffredinol o 99.6% yn 2022. Cafwyd cyfradd lwyddo o 100% mewn 20 allan o 22 pwnc gan gynnwys pob pwnc STEM, Saesneg, Hanes a Daearyddiaeth.
Mae nifer y dysgwyr sy’n cyflawni graddau A*-C i fyny 28% o gymharu â 2019 – y tro diwethaf roedd canlyniadau’n seiliedig ar arholiadau allanol yn hytrach na graddau a bennwyd gan y ganolfan, fel yr oeddent yn ystod y pandemig. Mae nifer y dysgwyr sy’n ennill y graddau A* ac A yn U2 hefyd wedi cynyddu 22%………. Darllenwch y stori lawn
Amelia and Macey Morris
Oed: 18
Yn byw ym: Mhontypridd
Ysgol Flaenorol: Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen
Llongyfarchiadau i’r efeilliaid Amelia a Macey Morris
Amelia – ABB y Gyfraith, Y Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, y Gyfraith, yn mynd ymlaen i Brifysgol Bryste i astudio cymdeithaseg
Macey – ABC Gwleidyddiaeth, Cymdeithaseg, Troseddeg, yn mynd ymlaen i Brifysgol Caerdydd i astudio Cymdeithaseg
Morgan Lewis – Darllenwch ragor
Oed: 21
Yn byw yn: Nhon Pentre
Ysgol Flaenorol: Ysgol Gyfun Treorci
Cwrs (Cyrsiau) a gwblhawyd: Technolegau Peirianneg Lefel 3
Gradd Rhagoriaeth Technolegau Peirianneg Lefel 3 Wedi ennill Prentisiaeth gyda FSG Tool & Die Ltd
Arjundeep Singh – Darllenwch ragor
Oed: 21
Yn byw yng: Nghaerdydd
Cwrs (Cyrsiau) a gwblhawyd: Peirianneg Mecanyddol a Thrydanol Lefel 3 (Gradd Rhagoriaeth Dwbl)
NVQ Lefel 3 Seiliedig ar Waith
Prentis y Flwyddyn Clwb Busnes Caerffili
Cwblhaodd ei brentisiaeth a sicrhau cyflogaeth lawn amser gyda BAIE
Emily Evans
Oed: 33
Yn byw yn: Gilfach Goch
Ysgol Flaenorol: Ysgol Uwchradd Tonyrefail
Cwrs (Cyrsiau) a gwblhawyd: Sgiliau ar gyfer Astudiaethau Pellach a Mynediad i’r Dyniaethau
Ers cwblhau BA mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol. Ers iddi gwblhau BA mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol (gan ennill gradd dosbarth cyntaf), mae ar fin cwblhau cwrs Gradd Meistr mewn Gweithio gyda Phlant a Phobl Ifanc (Tachwedd 2022) gyda Phrifysgol De Cymru.
Mae Emily yn astudio ac ar yr un pryd yn gwirfoddoli yn ei chanolfan ieuenctid leol yn Gilfach Goch gan weithio gyda gwasanaeth cwnsela ‘Eye to Eye’ fel rhan o’u tîm ymateb, mae’n cynnal prosiectau ieuenctid ac yn aelod rhagweithiol yn ei chymuned.
Claire Lewis
Oed: 40
Yn byw yn: Y Coed Duon
Ysgol Flaenorol: Ysgol Gyfun y Coed Duon
Cwrs (Cyrsiau) a gwblhawyd: Mynediad i Fusnes a Gwasanaethau Ariannol
Dychwelodd i fyd addysg ar ôl magu ei phlant. Cwblhaodd Claire y cwrs Mynediad i Fusnes a Gwasanaethau Ariannol. Yna, enillodd gyflogaeth ym maes gwasanaethau cwsmeriaid gyda chwmni lleol.
Mae Claire yn parhau i astudio yng Ngholeg y Cymoedd ac ar hyn o bryd ar fin cwblhau Gradd Sylfaen mewn Rheoli erbyn 2024.
Maia Thomas
Oed: 19
Yn byw ym: Merthyr Tudful
Ysgol Flaenorol: Ysgol Uwchradd Cyfarthfa
Cwrs (Cyrsiau) a gwblhawyd: y Celfyddydau Perfformio Lefel 3 (Rhagoriaeth *), Y Celfyddydau Perfformio Lefel 4 (Disgwylir Rhagoriaeth)
Yn mynd i Academi Italia Conti, academi nodedig celfyddydau’r theatr lle mae’n gobeithio dilyn gyrfa fel perfformiwr proffesiynol cerdd a theatr.