Rhagolygon disglair i ddysgwyr y Cymoedd

Wrth i’r flwyddyn academaidd ddirwyn i ben, dathlodd Coleg y Cymoedd lwyddiant ei ddysgwyr ar gampws Nantgarw. Croesawodd y Pennaeth, Karen Phillips, y dysgwyr, y gwesteion, y Llywodraethwyr, y noddwyr a’r staff i’r seremoni, cyn cyflwyno’r Siaradwr Gwadd ar gyfer y noson – Y Cyflwynydd Tywydd Behnaz Akhgar.

Llongyfarchodd Behnaz y dysgwyr a oedd yn derbyn gwobrau am eu cyflawniadau gan gydnabod eu gwaith caled a’u hymrwymiad. Rhoes drosolwg o’i gyrfa, gan amlinellu rhai o’r siomedigaethau a brofodd yn ystod ei gyrfa a phwysleisiodd bŵer credu ynoch chi eich hun.

Amy Williams, sy’n astudio Celfyddydau Perfformio yng nghampws y Rhondda, arweiniodd y noson a darparodd adloniant cerddorol anhygoel gyda’i chyd-ddysgwr Rachel Evans. Cyflwynwyd dros hanner cant o wobrau i’r dysgwyr a enwebwyd o dros 10,000 o ddysgwyr ar draws pob adran yng nghampysau Aberdâr, y Rhondda, Nantgarw ac Ystrad Mynach.

Cyflwynwyd Gwobr Bev Harding am Greadigrwydd i Tayanne Williams a chyflwynwyd Gwobr Emily Kendrick am Optimistiaeth Yn Wyneb Trallod i deulu Siobhan Mullan.

Cyflwynodd Mr Geoff Hughes, Meistr Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru Wobr Lifrai Cymru eleni i ddau ddysgwr Safon Uwch Thomas Tiltman a Daniel Bray. Mae’r ddau ddysgwr newydd gwblhau eu Safon Uwch ac ar ôl derbyn eu canlyniadau bydd Daniel yn mynd ymlaen i astudio Cyfrifiadura ym Mhrifysgol Bryste a bydd Thomas yn mynd ymlaen i astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Caerfaddon.

Arweiniodd rhaglen y noson at y ddwy wobr derfynol – Goresgyn Rhwystrau a Chyflawniadau Eithriadol.

Cyflwynir y Wobr Goresgyn Rhwystrau i’r dysgwr sydd wedi goresgyn rhwystrau yn ystod eu hastudiaethau. Yr enillydd eleni oedd Charlotte Bell sy’n astudio Rheoli Digwyddiadau a Marchnata ar gampws Ystrad Mynach. Enillodd Ragoriaeth Rhagoriaeth * yn ei blwyddyn gyntaf yn y coleg ac eleni rhagwelir y bydd yn enill tair gradd Rhagoriaeth *. Mae Charlotte hefyd wedi gweithio’n ddiflino fel Llywodraethwr Fyfyriwr, wedi cymryd rhan ym Menter Her Sgiliau Cymru ac wedi bod yn fodel rôl rhagorol i bob dysgwr yn y coleg. Mae hi’n bwriadu ymuno â chynllun Network 75 ym Mhrifysgol De Cymru – ac mae wedi cael tri chynnig diamod i astudio Digwyddiadau neu Reoli Busnes.

Cyflwynwyd y Wobr Cyflawniad Rhagorol i Josh Jenkins a Brychan Probert i gydnabod eu canlyniadau academaidd a’u cydweithio creadigol. Enillodd eu ffilm ffeithiol fer ‘A Red Documentary’ Gystadleuaeth Sgiliau Digidol Cymru ar gyfer Fideo Digidol 2019 ac mae eu ffilm Prosiect Estynedig ‘Retribution’ yn un o’r darnau mwyaf nodedig o waith ffilm Lefel 3 y mae’r tiwtoriaid cwrs wedi’i weld erioed.

Ochr yn ochr â’u gwaith cwrs, maent hefyd wedi sefydlu cwmni cynhyrchu ac wedi ymgymryd â gwaith golygu ac wedi cynhyrchu ffilmiau byrion a fideos hyrwyddo a phriodas.

Mae eu doniau, eu proffesiynoldeb, eu moeseg gwaith a’u creadigrwydd wedi bod yn ysbrydoliaeth i ddysgwyr ar y cwrs.

Mae Josh a Brychan yn symud ymlaen i astudio’r BA (Anrh) mewn Cynhyrchu Ffilmiau ym Mhrifysgol Caerloyw.

Wrth gloi’r digwyddiad, rhoes y Pennaeth ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y noson – y dysgwyr Lletygarwch ac Arlwyo a baratôdd a weinodd amrywiaeth o ganapés blasus a diodydd drwy gydol y nos, y noddwyr, Llywodraethwyr, gwesteion a staff a dymunodd bob llwyddiant i’r dysgwyr wrth iddynt deithio ar hyd eu llwybr gyrfa cyffrous. 

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau