Rhai o ddysgwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Coleg y Cymoedd yn cymryd rhan mewn cwrs Cymorth Cyntaf cyfrwng-Cymraeg. Cyllidwyd y cwrs gan arian o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Athro o Ysgol Gyfun Rhydywaun oedd wedi darparu’r cwrs ag oedd wedi cymryd lle dros ddau ddiwrnod ar gampws Nantgarw. Dysgwyd y dysgwyr sut i wneud Adfywiad Cardioysgyfeiniol, i ddefnyddio diffibriliwr ac i ddodi pobl yn y safle argyfwng. Roedd y cwrs yn rhyngweithiol iawn ac roedd y dysgwyr wedi wir fwynhau.Byddan nhw’n elwa’n fawr drwy gael y cymhwyster ychwanegol yma sef Cymorth Cyntaf Brys yn y Gweithle sydd wedi cael ei achredu.
Â
Dwedodd Alison Jones, Pennaeth Datblygiadau’r Iaith Gymraeg yn y Coleg, ‘Dyn ni mor ddiolchgar i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am eu cefnogaeth i alluogi’r Coleg gynnig y cwrs diddorol a defnyddiol hyn. Bydd yn fantais i’n dysgwyr wrth iddynt ymgeisio am swyddi yn y sector Gofal ac yn ffordd wych iddynt gadw eu sgiliau Cymraeg hefyd’.
Â
“