Roedd yn wych gweld Alys Evans yn disgleirio yn rownd derfynol Worldskills UK yn y Sioe Sgiliau yn Birmingham yn ystod Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang. Eisoes yn enillydd Dysgwr y Flwyddyn VQ ynghyd â llawer o wobrau coginio – mae Alys yn parhau i syfrdanu â’i dyfalbarhad, ei sgil a’i hyder.
Mewn cystadleuaeth anodd, mae Alys wedi llwyddo sicrhau lle yn Sgwad Hir Worldskills ar gyfer Kazan 2019. Bydd yn rhaid i Alys gystadlu ag aelodau eraill o’r garfan hir er mwyn cael ei dewis ar gyfer tîm y DU sy’n mynd i Rwsia, ac mae’r Coleg yn edrych ymlaen at ei chefnogi.
Mae Cystadlaethau Sgiliau Cymru wedi cychwyn a chystadleuydd cyntaf Coleg y Cymoedd i gyrraedd rownd derfynol Cymru yw Rajan Singh. Bydd Rajan yn cystadlu ym Mhencampwriaeth Coginio Cymru yng Ngholeg Llandrillo ym mis Chwefror 2018.
Hoffem ddwyn y cyfle hwn i ddymuno’n dda i holl gystadleuwyr Coleg y Cymoedd yn eu cystadlaethau Sgiliau sydd ar y gweill. Bydd rhagor o newyddion yn fuan iawn!
“