Ron yn cwblhau cylch llawn yn Ystrad Mynach

Mae tiwtor Coleg y Cymoedd, Ron Williams, wedi rhoi’r twls ar y bar ar ôl treulio dros hanner canrif yn gweithio ac yn addysgu yn y diwydiant Plymio a Gwresogi. 

Dechreuodd Ron, sy’n wreiddiol o Lanbradach, Caerffili ond bellach yn byw yn Llandaf, Caerdydd, ei yrfa yn 1971 pan ymrestrodd ar gwrs Prentisiaeth Plymio, Gwresogi a Nwy yng Ngholeg Ystrad Mynach; sydd bellach yn rhan o Goleg y Cymoedd. Fe fwynhaodd bob munud o’i astudiaethau a gweithiodd yn galed i wneud ei orau i ennill graddau da, ac yn 1974 dyfarnwyd Ron yn Fyfyriwr Coleg y Flwyddyn.

Aeth ymlaen i ennill cymwysterau Crefft a Chrefft Uwch City & Guilds gyda Rhagoriaeth, a chymwysterau Addysg Uwch ac Addysgu. Yn 1978 dechreuodd Ron ei yrfa addysgu, gan ddarlithio’n rhan-amser yn y coleg, o dan fentoriaeth Jim Manley, a fu hefyd yn mentora ei gydweithiwr Andrew Keenan. Ar ôl nifer o flynyddoedd, heb unrhyw gyfle i addysgu’n llawn amser, gadawodd Ron fyd addysg a chafodd yrfa lwyddiannus fel peiriannydd hunangyflogedig.

Ar ôl 15 mlynedd yn ei waith, llwyddodd angerdd Ron dros addysg i’w ddenu yn ôl i’r ystafell ddosbarth mewn colegau amrywiol, lle bu’n ymgymryd ag amrywiaeth o rolau gan gynnwys Darlithydd, Aseswr, Dilyswr, Mentor Dysgu ac Addysgu, Arweinydd Adran, Uwch Ddarlithydd, Cydlynydd Cwrs Byr, Rheolwr Canolfan Ynni, Gosodwr Ynni Adnewyddadwy, Hyfforddwr a Rheolydd Ansawdd. Ac yntau bob amser yn awyddus i ehangu ar ei brofiad, bu Ron yn gweithio yn y Tîm Dysgu yn Seiliedig ar Waith yn asesu Prentisiaid a dyluniodd a chyflwynodd gyrsiau Addysg Gymunedol.

Roedd Ron yn llysgennad gwirioneddol dros Ddysgu Gydol Oes a chwblhaodd ei gymwysterau TAR, Tystysgrif Addysg, Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Adeiladu a nifer o gyrsiau byr eraill. Ei rôl olaf yn y coleg oedd Rheolwr y Ganolfan Nwy, ar gampws Ystrad Mynach, lle bu’n gweithio’n galed i gynyddu diddordeb yn y sector ynni.

Nid gwaith oedd popeth i Ron, roedd hefyd yn canu ac yn chwarae’r gitâr ym mand roc y Coleg adeg partïon Nadolig a diwedd blwyddyn. Wrth sôn am ei ymddeoliad, dywedodd Ron: “Dw i’n teimlo fy mod wedi gweithio’n galed i drosglwyddo fy mhrofiad helaeth i lawer o fyfyrwyr a chydweithwyr. Hoffwn ddiolch i bawb, yr holl staff a myfyrwyr rydw i wedi cael y pleser o weithio gyda nhw drwy gydol y cyfnod yma yn fy ngyrfa.  Dw i wedi mwynhau fy amser ar gampws Ystrad Mynach, fel y prentis ifanc yna yn y saithdegau ac yn fwy diweddar fel Rheolwr y Ganolfan Nwy. Felly daliwch ati, a daliwch i Ddysgu gydol Oes!”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau