Enwyd Rebecca Thomas, 20 oed o Drecynon, Aberdâr, o Goleg y Cymoedd yn Fyfyriwr y Flwyddyn Endsleigh yn ystod Cynhadledd dau ddiwrnod blynyddol NUS Cymru a gynhaliwyd yn y Pierhead, Caerdydd.
Daeth cynrychiolwyr Undeb y Myfyrwyr o bob cwr o Gymru at ei gilydd er mwyn sefydlu blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod, trafod dyfodol NUS Cymru ac ethol arweinyddion newydd. Mae’r achlysur yn dathlu 40 mlynedd o fodolaeth NUS Cymru ac mae’r achlysur democratig blynyddol yn lle gwych i rwydweithio gyda myfyrwyr ac actifyddion o bob cwr o Gymru. Cafodd y cynrychiolwyr hefyd gyfle i glywed areithiau gan siaradwyr ysbrydoledig.
Uchafbwynt y Gynhadledd oedd Seremoni Wobrwyo NUS Cymru sy’n cydnabod rhagoriaeth ym meysydd academaidd, galwedigaethol ac all-gwricwlaidd. Roedd 90 o enwebiadau ond cafodd cyfraniad Rebecca i’r coleg ei gydnabod, a dyfarnu teitl Myfyriwr y Flwyddyn Endsleigh iddi.
Bu Rebecca yn gynrychiolydd ar Fforwm Llais y Dysgwr yn y coleg a bu’n eithriadol o weithgar yn treulio oriau o’i hamser yn gwneud gwahaniaeth i’w chyd-fyfyrwyr.
Hefyd, bu Rebecca’n cydweithio’n agos gyda Thîm Iechyd Meddwl New Horizons a Grŵp Cymorth Friends R us, yn mynd gyda dysgwyr i sesiynau, trefnu tripiau a’u hannog a’u cynorthwyo yn gyffredinol.
Dywedodd Laura Wilson, y Swyddog Lles: “Mae’r Coleg wrth ei fodd bod Rebecca wedi ennill gwobr Myfyriwr y Flwyddyn Endsgleigh a hynny’n haeddiannol iawn. Gwnaeth gyfraniad enfawr i’r coleg, yn enwedig gyda’i gwaith gyda iechyd meddwl. Mae’n gynrychiolydd brwd a bob amser yn awyddus i helpu a chefnogi gwahanol ddigwyddiadau yn y coleg. Rydyn yn ystyried bod ein Fforwm Llais y Dysgwr yn bwysig iawn ac mae barn y dysgwyr yn ganolog i benderfyniadau’r Uwch Dîm Rheoli yn y coleg.
Dywedodd Rebcca , ҠRoedd yn fraint cael fy enwebu am Wobr Myfyriwr y Flwyddyn a hoffwn ddiolch i Laura Wilson am fy enwebu. Drwy fy rôl fel cynrychiolydd y myfyrwyr. Ces gyfle i fod yn rhan o gymaint o ddigwyddiadau a phrosiectau. Mae fy ngwaith gyda thîm Iechyd Meddwl New Horizons a Friends R us wedi rhoi cipolwg i mi ar broblemauy mae rhai o’n dysgwyr yn eu hwynebu a dwi wrth fy modd mod i’n gallu eu helpu a gwneud gwahaniaeth yn eu bywydau.â€
Yn ôl Beth Button, Dirprwy Lywydd NUS Cymru: â€Gwnaeth lefel ymroddiad Rebecca i wella bywyd ei chyd-fyfyrwyr yn ei choleg argraff fawr ar y panel beirniaid. Ar ôl gweithio gyda Rebecca eleni, gallaf ddweud heb flewyn ar dafod bod y gwaith y mae hi’n ei wneud yn ysbrydoli ac mae’n wir yn haeddu’r wobr hon.
“