Salford yn croesawu’r tri chwaraewr cyntaf drwy’r bartneriaeth rhwng Rygbi’r Gynghrair Cymru a Choleg y Cymoedd

Mae Rygbi’r Gynghrair Cymru a Choleg y Cymoedd wrth eu bodd bod Salford Red Devils wedi croesawu’r tri chwaraewr cyntaf drwy ein partneriaeth â chlwb y Super League.

Bydd Ieuan Roberts, Jake Lee a Joe Coope-Franklin yn ymuno â Sgwad wrth gefn y clwb ar gyfer 2022. Ymwelodd y triawd â Stadiwm AJ Bell ddydd Mercher i gwrdd â staff allweddol y clwb a mynd ar daith o amgylch y stadiwm, cyn iddynt symud i ogledd orllewin Lloegr mis nesaf.

Mae’r tri chwaraewr wedi bod yn astudio ac yn chwarae rygbi’r gynghrair yn Academi Datblygu Genedlaethol Rygbi’r Gynghrair Cymru yng Ngholeg y Cymoedd, gyda Coope-Franklin, sy’n 19 oed, yn dechrau ei yrfa rygbi’r gynghrair yno ar ôl newid o rygbi’r undeb.

Daeth Roberts, sy’n troi’n 20 oed y mis hwn, drwy glwb Bleiddiad Cwm Aber yng Nghaerffili ac mae wedi ennill capiau dros dîm o dan 19 oed Cymru a thîm Myfyrwyr Cymru.

Daeth Lee, a drodd yn 19 oed y mis diwethaf, hefyd trwy dîm iau Bleiddiad Cwm Aber, gan chwarae unwaith i Ddreigiau Gleision Caerdydd. Mae wedi ennill capiau dros dîm o dan 16 oed Cymru, tîm o dan 19 oed Cymru a thîm myfyrwyr Cymru.

Bydd y tri chwaraewr yn ymuno â Sgwad wrth gefn Salford Red Devils ar gyfer hyfforddiant cyn dechrau’r tymor, gan gyfuno eu datblygiad rygbi â’u hastudiaethau ym Mhrifysgol Ganolog Swydd Gaerhirfryn. Sylwodd Paul Rowley, Stuart Wilkinson ac Ian Blease arnynt yn ystod gwersylloedd hyfforddi cenedlaethol ac oherwydd eu perfformiadau yn rhaglen llwybr rhyngwladol Cymru.

Dywedodd Paul Trainor, Cyfarwyddwr Gweithredol y clwb “Rydym yn falch iawn o groesawu Ieuan, Jake a Joe i’r clwb. Maent wedi creu argraff fawr ar Paul, Stuart ac Ian yn ystod eu hymweliadau â Chymru. Roedd yn wych cwrdd â’r bechgyn a’u teuluoedd i drafod y cynlluniau a fydd ar waith ar gyfer ymuno â’r set wrth gefn ar gyfer y cyfnod cyn dechrau’r tymor. ”

Dywedodd Paul Rowley, Pennaeth Talent a Llwybrau: “Mae ein partneriaeth â Chymru wedi mynd o nerth i nerth ac mae’r bechgyn hyn yn enghraifft arall o hynny.

“O adnabod a datblygu talent gan Stu Wilkinson i gefnogaeth o ran llety ac addysg gan Paul Trainor, mae’r bechgyn hyn wedi cael cyfle gwych i barhau â’r traddodiad o sêr Cymru yn gwisgo crys Salford.

“Mae gennym ni hyder llwyr fod gan bob un o’r bechgyn y gallu a’r cryfder cymeriad i fod yn chwaraewyr rygbi’r gynghrair ac rydym yn hyderus iawn mai’r chwaraewyr hyn fydd y cyntaf o lawer wrth i’n gwaith yng Nghymru barhau.”

Ychwanegodd Mark Jones, Prif Hyfforddwr Academi Datblygu Genedlaethol Rygbi’r Gynghrair Cymru: “Mae’r bartneriaeth rhwng Coleg y Cymoedd, Salford Red Devils a Rygbi’r Gynghrair Cymru yn wirioneddol lewyrchus ac rwy’n falch iawn o Ieuan, Jake, Joe a Ryan am fod y chwaraewyr cyntaf i ddod drwy’r llwybr newydd hwn. Maent yn dyst i’r holl waith caled y mae staff Salford, Coleg y Cymoedd a Rygbi’r Gynghrair Cymru wedi’i wneud dros y 12 mis diwethaf.

“Gyda hanes Salford Red Devils o arwyddo chwaraewyr Cymru, roeddem yn gwybod ei fod yn ffit naturiol i Goleg y Cymoedd ac Academi Datblygu Genedlaethol Rygbi’r Gynghrair Cymru ac rwy’n edrych ymlaen at weld bechgyn newydd Cymru yn llofnodi eu contractau gyda Salford yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf.

“Hoffwn hefyd ddiolch i UCLAN am eu holl gefnogaeth ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

“Ni yw’r unig goleg yng Nghymru sy’n cynnig rhaglen rygbi’r gynghrair amser llawn ochr yn ochr ag addysg ac yn bendant mae gan chwaraewyr Cymru lwybr uniongyrchol i gyflawni eu breuddwydion o chwarae yn y Super League.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu Academi Rygbi’r Gynghrair Cymoedd, cwblhewch ffurflen gais ar-lein YMA ac yna byddwch yn derbyn ateb yn amlinellu’r hyn sydd angen ei wneud nesaf i sicrhau eich lle.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau