Mae plymwr dawnus ar brentisiaeth, Ruben Duggan, 20, wedi cyrraedd rowndiau terfynol cenedlaethol cystadleuaeth WorldSkills UK eleni.
Cyhoeddwyd Ruben, sydd ar hyn o bryd yn astudio Diploma Plymio NVQ Lefel 3 yng Ngholeg y Cymoedd, yn un o wyth i gyrraedd y rownd derfynol a fydd yn cystadlu yng nghategori plymio’r gystadleuaeth yng Ngholeg Middlesbrough ym mis Tachwedd.
Mae WorldSkills UK yn rhaglen ddatblygu genedlaethol sy’n seiliedig ar gystadlu. Fel rhan o’r rhaglen mae dysgwyr o bob rhan o’r wlad yn profi eu sgiliau ac yn cystadlu mewn amrywiaeth o heriau yn seiliedig ar eu set sgiliau. O osod brics a pheirianneg, i gyfrifeg, trin gwallt a TG, ymdrinnir â dros 50 o gategorïau, gyda phob un yn cynnwys cymysgedd o sgiliau technegol ac addysgol gyda’r nod o arddangos arfer gorau yn y maes.
Bydd gan gystadleuwyr sy’n gwneud argraff yn ystod y rowndiau terfynol siawns o gynrychioli’r DU yn y Gemau Olympaidd Sgiliau yn Ffrainc yn 2024.
Sicrhaodd Ruben ei le ar ôl curo 14 o gystadleuwyr eraill i gipio teitl rhanbarthol Cymru yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro ym mis Mai. Daw ei lwyddiant wedi iddo gael ei goroni’n Blymwr Dan Brentisiaeth y DU yng nghystadleuaeth Prentis y Flwyddyn HIP 2022 yn gynharach eleni.
Wrth siarad am y cyflawniadau, dywedodd Lee Perry, Darlithydd Plymio yng Ngholeg y Cymoedd: “Dyma’r tro cyntaf erioed inni weld dysgwr plymio yn cyrraedd cyn belled â hyn mewn cystadleuaeth World Skills. Mae’n llwyddiant mawr ac yn gyflawniad anghredadwy i Ruben a’r coleg. Mae gan Ruben lu o gyflawniadau i’w enw, ar ôl ennill cyfres o gystadlaethau gan gynnwys, yn fwyaf diweddar, Plymwr dan Brentisiaeth y Flwyddyn HIP, sy’n dangos ei waith caled a’i sgiliau hynod. Ni allwn aros i weld beth arall y gall Ruben ei gyflawni.”
Bydd 10 o ddysgwyr eraill o Goleg y Cymoedd yn ymuno â Ruben, gan gyrraedd rowndiau terfynol y gystadleuaeth yn y categorïau canlynol: Jacob Smith a Matthew Lawrence (Seiber Ddiogelwch); Shaun Bennett, Kaleb Szymanski, Bence Kormos a Cameron Forbes (Cynnal a Chadw Awyrennau); Ella Johnson (Sgiliau Sylfaenol: Arlwyo); Zack Morris, Lewis Hart, Cole Peters (Systemau Rhwydwaith – Gweinyddydd).
Bydd dros 500 o bobl o bob rhan o’r DU yn cymryd rhan yn y rowndiau terfynol cenedlaethol, sef cystadleuaeth am wobrau aur, arian ac efydd ym mhob categori. Bydd y rowndiau terfynol yn cael eu cynnal mewn lleoliadau ar draws y DU drwy gydol mis Tachwedd.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: